Un o’r nifer o deithiau cerdded gyda golygfeydd trawiadol ac amrywiol sydd wedi lleoli ar hyd Aber Afon Mawddach
Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, nodwedd ddiffiniol Taith Panorama yw ei golygfeydd godidog dros Aber Mawddach, cadwyn mynyddoedd Cader Idris a Bae Ceredigion. Gan gychwyn o’r Bermo, bydd y llwybr cymedrol 4 milltir hwn yn eich arwain trwy goetir amrywiol, ar hyd ffyrdd gwledig troellog ac i gefn gwlad agored gyda golygfeydd o’r dirwedd o’i amgylch.
Pam y llwybr hwn?
Fel llwybr cymedrol, gall y llwybr Panorama fod yn ddewis gwych i gerddwyr dibrofiad sydd yn barod am her newydd mewn ardal wahanol o’r Parc Cenedlaethol. Mae’r llwybr hefyd yn un o nifer o lwybrau amrywiol ar hyd Aber Afon Mawddach. Os am ddewis mwy hygyrch, mae Llwybr Mawddach ar lan ddeheuol yr aber yn ddewis perffaith.
Mae rhan gyntaf y daith hyd at olygfan y llwybr yn hawdd ac yn addas i deuluoedd ifanc. Fodd bynnag, mae rhannau eraill yn serth a gallant fod yn wlyb iawn dan draed. Gwisgwch esgidiau addas mewn tywydd gwlyb.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Bydd y tir yn cynnwys rhai llwybrau serth a bydd rhannau yn y cefn gwlad agored yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.
Dechrau/Diwedd
Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ger Abermaw (SH 625 166)
Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)
Cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Maes Parcio Parc Cenedlaethol Eryri ger Abermaw S
Eiddo Parc Cenedlaethol Eryri
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Aber Afon y Fawddach
Mae aber helaeth a thywodlyd Mawddach yn un o ardaloedd mwyaf hynod y Parc Cenedlaethol.
Mae’r ardal wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig oherwydd ei chynefinoedd morfa heli a chynefinoedd mawn iseldir.
Mae cors Arthog gerllaw yn gartref i warchodfa natur yr RSPB yn llawn bywyd gwyllt anhygoel fel blodau prin, nadroedd y gwair, gloÿnnod byw a phob math o adar.
Roedd yr ardal hefyd yn ganolbwynt i ddiwydiant cyfoethog Eryri yn y gorffennol. Ar lan ogleddol yr aber, saif mwynglawdd aur hanesyddol Clogau yn uchel uwchben pentref Bontddu. Roedd cloddio am aur yn weithgaredd poblogaidd yn y maes hwn. Roedd panio aur hefyd yn digwydd yn afon Mawddach ei hun.
Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, bu’r Fawddach yn gartref i ddiwydiant adeiladu llongau prysur. Adeiladwyd cyfanswm o 318 o longau ar hyd y Fawddach rhwng 1750 a 1865.
Pont Abermaw
I lawr tua diwedd aber y Fawddach saif Pont y Bermo, yn croesi rhwng glannau gogleddol a deheuol Afon Mawddach. Mae’r bont yn draphont reilffordd bren un trac Gradd II* sy’n ymestyn 820 metr rhwng gorsafoedd Morfa Mawddach a’r Bermo. Dyma’r draphont bren hiraf yng Nghymru ac mae’n gyfystyr â golygfeydd o’r aber.
Gerddi Panorama
Roedd Abermaw yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr yn ystod oes Fictoria. Wrth i chi gerdded ar hyd y llwybr i bentref Cutiau, byddwch yn mynd heibio i hen ardd Fictoraidd a oedd yn boblogaidd yn y 1900au cynnar. Roedd ystafell de yn y gerddi a golygfa wych o’r ardal gyfagos.