Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Gyda phenwythnos Gŵyl y Banc olaf yr haf yma, mae partneriaid yn ymuno i annog pob gyrrwr i barcio’n gyfrifol ac yn ddiogel os ydynt yn ymweld â mannau harddwch poblogaidd ledled Gogledd Cymru.

Mae unrhyw un sy’n bwriadu ymweld ag atyniadau mwyaf poblogaidd y rhanbarth hefyd yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw a bod yn ystyrlon i gymunedau lleol.
Wrth i wyliau haf yr ysgolion ddod i ben, disgwylir y bydd y rhanbarth yn dod yn hynod o brysur dros y dyddiau nesaf.

Mae rhai negeseuon allweddol gan holl asiantaethau partner yn cynnwys:

  • Cynllunio o flaen llaw – gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu eich ymweliad a gweithgareddau o flaen llaw er mwyn sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill. Dylai ymwelwyr fynd ar wefan AdventureSmartUK lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth defnyddiol
  • Parciwch yn gyfrifol – gwiriwch ble mae’r meysydd parcio pwrpasol ac unrhyw drefniadau sydd angen eu gwneud. Mae gwybodaeth am feysydd parcio ar gael ar wefannau awdurdodau lleol. Os ydych yn parcio ger yr arfordir, plis checiwch amseroedd llanw ac unrhyw amseroedd cau giatiau cyn gadael eich car
  • Trafnidiaeth gyhoeddus – os yw’n bosib, defnyddiwch drafnidiaeth cyhoeddus er mwyn torri lawr ar dagfeydd a phroblemau parcio mewn ardaloedd poblogaidd, ac er budd yr amgylchedd. Er enghraifft, mae gwasanaeth bws Sherpa yn gweithredu’n rheolaidd ac yn cysylltu ag ardaloedd poblogaidd sydd o amgylch Yr Wyddfa, ynghyd â gwasanaethau eraill yn yr ardal megis bysiau trydan. Mae hyn yn galluogi pobl i barcio yn y maes parcio priodol cyn mwynhau mynyddoedd Eryri ac atyniadau poblogaidd eraill yr ardal
  • Parchu cymunedau – byddwch yn ystyriol o’r amgylchedd a nodwch unrhyw reoliadau neu arwyddion rhybudd lleol. Er enghraifft gwaredwch eich sbwriel yn gyfrifol trwy naill ai ei roi mewn bin cyhoeddus neu fynd ag ef adref. Dylai perchnogion cŵn bob amser godi a gwaredu llanast eu hanifeiliaid anwes.
  • Gwersylla – Ni chaniateir campio gwyllt yn unlle yn Eryri oni bai fod caniatâd wedi cael ei roi yn benodol gan y tirfeddiannwr neu ffermwr. Ni chaniateir gwersylla mewn meysydd parcio neu ar ymyl y ffordd o gwbl. Y ffordd orau i fwynhau gwersylla yng Ngogledd Cymru yw i aros mewn gwersyllfan swyddogol.

Meddai’r Arolygydd Dros Dro Jason Diamond, Heddlu Gogledd Cymru:

“Wrth i ni fentro i benwythnos gŵyl y banc olaf yr haf, rydym yn gwerthfawrogi bod pobl yn mentro allan i fwynhau golygfeydd godidog Eryri, fodd bynnag, gyda hyn mewn cof, rydym unwaith eto yn annog pobl i fod yn gyfrifol.

“Dylai modurwyr sy’n dod i’r ardal feddwl ble maent yn parcio ac gwneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael. Mae hwn yn cynnwys gwneud defnydd o’r gwasanaeth bws gwennol sy’n cael ei ddarparu yn y Parc Cenedlaethol.

“Fe wnawn barhau i gydweithio’n agos efo’n partneriaid er mwyn helpu lleihau’r risg i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill. Mae’r parcio anghyfrifol a pheryglus yr ydym wedi’i weld yn flaenorol mewn rhai ardaloedd wedi bod yn annerbyniol. Nid yn unig mae hyn yn peryglu bywydau ond hefyd mae’n atal mynediad brys i gerbydau, gan gynnwys mynediad i Dimau Achub Mynydd.

“Mae Timau Achub Mynydd ar draws Gogledd Cymru wedi gweld cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau eleni – plis helpwch nhw drwy baratoi a sicrhau eich bod hefo’r offer a’r dillad cywir. Mae gwybodaeth defnyddiol ar gael drwy gwefan Adventure Smart.”

Meddai Jonathan Cawley, Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro Parc Cenedlaethol Eryri:

“Wrth i Ŵyl y Banc agosáu, mae’n bwysig i bawb sy’n cynllunio taith i Eryri fod yn ymwybodol bydd rhai o’n safleoedd yn llawn.

“Rydym yn argymell yn gryf i ymwelwyr feddwl yn ofalus am ben eu taith a chael cynllun wrth gefn os yw’r dewis cyntaf yn rhy brysur. Trwy fod yn hyblyg, gallwn barhau i warchod ein cymunedau ac amgylchedd a sicrhau bod pawb yn cael mwynhau’r Parc Cenedlaethol yn ddiogel.”

Yn ystod cyfnodau prysur, anogir ymwelwyr i Eryri i ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio neu ardaloedd parcio pwrpasol os ydynt yn cyrraedd mewn car. Dylai ymwelwyr sydd eisiau defnyddio maes parcio Pen y Pas arbed eu lle o flaen llaw i sicrhau argaeledd ac i leddfu tagfeydd – ewch i justpark.com

Dylai perchnogion cerbydau gydymffurfio â’r cyfyngiadau parcio newydd sydd yn Nyffryn Ogwen, neu gall peidio â gwneud arwain at docyn cosb penodol neu hyd yn oed symud y cerbyd.

Yn ogystal, dylid parchu cymuned Nant Gwynant trwy ddilyn canllawiau lleol, bod yn ymwybodol o sŵn a mynd â’r holl sbwriel adref gyda chi.

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn amlinellu egwyddorion ymddygiad cyfrifol yn yr awyr agored, gan gynnwys parchu eraill, gwarchod bywyd gwyllt ac anifeiliaid a peidio â gadael unrhyw ôl. Anogir ymwelwyr i ymgyfarwyddo â’r cod a dilyn ei argymhellion i ddiogelu tirweddau unigryw a bioamrywiaeth y rhanbarth.

Gwefannau Defnyddiol: