Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn falch o gyhoeddi penodiad Jonathan Cawley fel y Prif Weithredwr newydd. Bydd yn cymryd yr awenau gan Iwan Jones y Prif Weithredwr dros dro sydd wedi arwain yr Awdurdod yn ymroddedig dros gyfnod pontio.

 

Fel y Prif Weithredwr newydd, bydd yn arwain yr Awdurdod drwy ei amcanion o warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt, a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Ymunodd a’r Awdurdod ym mis Medi 2013 ac wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir am y mwyafrif o’r amser hynny.

 

Dywedodd Jonathan Cawley:

“Rwy’n edrych ymlaen at oruchwylio’r ymdrechion i sicrhau bod y Parc Cenedlaethol yn parhau i fod yn amgylchedd cynaliadwy a llewyrchus i’n cymunedau ac ymwelwyr, wrth fynd i’r afael â heriau newid yn yr hinsawdd, dirywiad bioamrywiaeth, ac ymgysylltu cymunedol. Mae’n gyfle ac yn sialens yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr i’w wynebu.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Rydym yn hynod falch o groesawu Jonathan Cawley i’r swydd Prif Weithredwr. Rydym yn hyderus y bydd yn darparu’r arweinyddiaeth a’r meddwl arloesol sy’n angenrheidiol i lywio’r Awdurdod drwy’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaenau.”

 

Fel Prif Weithredwr, bydd yn canolbwyntio ar gryfhau partneriaethau gyda rhanddeiliaid, gweithredu cynlluniau rheoli’r parc, gwrando ar ein cymunedau, gwella profiadau ymwelwyr, ac yn gwella a gwarchod y tirweddau eiconig a bioamrywiaeth Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Yn ogystal, bydd yn arwain ar fentrau cynaliadwyedd sydd â’r nod o leihau ôl troed carbon yr Awdurdod ac yn hyrwyddo gwytnwch amgylcheddol.

 

DIWEDD

 

Nodiadau i Olygyddion:

 

  1. Am ymholiadau’r wasg cysylltwch ag Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu’r Awdurdod ar 01766 772253 / 07900267506 neu gwilym@eryri.llyw.cymru