Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwahodd busnesau i ddangos eu hymrwymiad i warchod y rhan arbennig yma o’r byd.
Gallwch wneud hynny trwy ddilyn y saith cam a restrir isod:
A photo of a tractor and trailer collecting apples at a vineyard
1. Cefnogi'n Lleol
Cryfhewch ein economi rhanbarthol trwy gyflenwi gan fusnesau lleol a hyrwyddo nwyddau lleol a thymhorol i'ch cwsmeriaid. Os oes cyfleoedd ystyriwch bartneriaethu gyda gwasanaethau eraill yn eich rhanbarth i gynnig profiadau unigryw?
Pethau i'w gwneud a llefydd i ymweld yn Gwynedd & Eryri
Road side view of Castell Harlech
2. Dathlu traddodiadau a diwylliant lleol
Anogwch eich cwsmeriaid i ymgysylltu gyda threftadaeth ddiwylliannol unigryw Gwynedd ac Eryri. Gallwch wneud hyn trwy annog eich cwsmeriaid i brofi diwylliant yr iaith Gymraeg a rhannu eich gwybodaeth o fytholeg yr ardal a thalu teyrnged i draddodiadau modern, er enghraifft dathliadau lleol neu genedlaethol fel Dydd Gŵyl Dewi neu'r Eisteddfod Genedlaethol.
Darganfyddwch hanes a threftadaeth Eryri.
A photo of Sherpa'r Wyddfa at Pen y Pass
3. Hyrwyddo teithio cynaladwy.
Helpwch ni i leihau'r pwysau ar ardaloedd poblogaidd drwy annog eich cwsmeriaid (a staff ble mae'n berthnasol) i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy. Gallwch wneud hyn trwy hyrwyddo gwasanaethau fel Sherpa'r Wyddfa, busnesau llogi beiciau a'r gwasanaethau trenau i'r rheini sy'n teithio o bell.
Y cyngor gorau am ymweld ag Eryri.
A photo of a responsible visitor taking their litter home
4. Lleihau effeithiau amgylcheddol eich busnes.
Arweiniwch trwy redeg busnes sydd yn eco-amgylcheddol. Gallwch ddechrau trwy: Leihau defnydd plastig eich busnes a darparu ardaloedd gwastraff penodol i staff a chwsmeriaid ac annog eich cwsmeriaid i adael dim ar eu holau. Am arweiniad penodol - cyfeiriwch nhw at Addewid Ymwelwyr Gwynedd ac Eryri.
Wedi eich hysbrydoli? Gallwch fynd gam ymhellach trwy arwyddo i gynllun busnesau Yr Wyddfa Ddi-Blastig neu ein cynlluniau Llysgenhadon.
A family walking in the woods
5. Gwarchodwch eich cymunedau lleol.
Anogwch eich cwsmeriaid i barchu trigolion, cymunedau ac ymwelwyr eraill - megis cadw lefelau sŵn a golau i lawr a pharchu eiddo a hawliau eraill. Gall eich cwsmeriaid wneud hyn trwy ddilyn yr arweiniad yn ein Addewid Ymwelwyr - e.e. gadael dim ôl, parcio'n gyfrifol, gadael giatiau fel ceir eu canfod a champio mewn ardaloedd dynodedig yn unig.
Addewid Ymwelwyr Gwynedd ac Eryri
6. Annog diogelwch ein mynyddoedd ac arfordir.
Cefnogwch ddiogelwch eich cwsmeriaid ac osgoi rhoi straen ar y gwasanaethau brys trwy ddarparu gwybodaeth cyfrifol am weithgareddau awyr agored. Mae Adventure Smart UK, y Cod Cefn Gwlad a'r Cod Morol yn lefydd gwych i ddechrau.
AdventureSmart Cymru
A family walking in the woods
7. Arwain ar ddiwylliant positif o gyfathrebu digidol
Hyrwyddwch ymddygiad cyfrifol ddigidol trwy arwain profiadau cynaliadwy - e.e osgoi tagio digidiol mewn ardaloedd gor-brysur neu gymryd rhan mewn gweithgareddau peryglus. Tagiwch ni yn eich teithiau cynaliadwy eich hunain trwy ddefnyddio hashnodau #Eryri, #Gwynedd, a #GwyneddAcEryriNi.
Sianel Instagram Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Trwy ymrwymo i’r cod hwn, bydd eich busnes yn chwarae rhan bwysig wrth warchod harddwch naturiol a phwysigrwydd diwylliannol Gwynedd ac Eryri  – ac yn cyfrannu at economi ymwelwyr cynaliadwy.

Drwy gofrestru  rydych yn cytuno i  Gyngor Gwynedd neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gysylltu â chi yn achlysurol ar faterion perthnasol. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn unol â rheoliadau GDPR.

Cofrestrwch heddiw ar gyfer derbyn bathodyn er mwyn arddangos bod eich busnes yn rhan o Addewid Busnes Gwynedd ac Eryri!

Enw
E-bost