Ym mis Hydref 2026, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dathlu 75 mlynedd ers ei ddynodi. Mae’r pen-blwydd arbennig hwn yn gyfle i ni ddathlu’r tirweddau, y cymunedau a’r holl elfennau sy’n gwneud Eryri’n lle arbennig.
Fel rhan o’r dathliadau, rydym yn awyddus i glywed gan fusnesau a fyddai’n hoff o weithio gyda ni mewn unrhyw ffordd. Gall hyn fod yn ddigwyddiadau ar y cyd, cynnyrch neu brofiadau thematig, prosiectau cymunedol, neu rannu syniadau. Rydym yn agored i bob math o gydweithio, ac rydym am i’r pen-blwydd adlewyrchu creadigrwydd a chymeriad cymunedau Eryri.
Os hoffech chi drafod sut y gall eich busnes fod yn rhan o’r dathliadau, byddem yn fwy na pharod i drafod unrhyw syniadau.