Ar 1af o Fawrth mi fydd 15 aelod o staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Pererinion Gogledd Cymru er mwyn codi arian at elusen sydd a chysylltiadau agos at Eryri.
Mae’r tîm yn rhedeg i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sefydliad y mae’r gwaith yn hanfodol i bobl sy’n byw, gweithio ac ymweld a’r Parc Cenedlaethol. Mae her eleni yn arbennig o arwyddocaol, gan fod yr elusen yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed ar yr un diwrnod â’r digwyddiad.
Cyn y digwyddiad, dywedodd Keira Sweenie, Cyfarwyddwr Cynllunio a Phartneriaethau’r Awdurdod:
“Mae’r rhai ohonom sy’n byw ac yn gweithio’n Eryri yn gweld y pwysau sydd yn gwynebu’r gwasanaethau brys a timau achub mynydd yn uniongyrchol. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi’r ymdrechoedd yma ac yn aml yn gwneud gwahaniaeth yn ystod y digwyddiadau mwyaf difrifol.”
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio’n agos gyda’i bartneriaid er mwyn hyrwyddo ymweliadau diogel yn Eryri, mae cefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn ran naturiol o’r cydweithio parhaus hyn.
Dywedodd Elaine Orr, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru:
“Hoffwn ddweud diolch o galon i staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a fydd yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Pererinion Gogledd Cymru er budd ein Elusen. Mae’r hanner marathon yn digwydd ar ben-blwydd yr Elusen yn 25 oed, ac mae’n wych bod y tîm yn codi arian i ni ar y dyddiad arbennig yma.
“Mae angen i’r Elusen godi £13 miliwn yn flynyddol er mwyn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd. Mae ymgyrchoedd codi arian fel hyn yn ein cynorthwyo i barhau i fod yno i bobl Cymru pan fydd eu hangen fwyaf arnynt. Dymunwn bob lwc i’r 15 ohonynt gyda’r hanner marathon. Trwy godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, maent i gyd yn chwarae rhan mewn achub bywydau ledled y wlad.”
Os hoffech gyfrannu at yr achos gallwch wneud hynny trwy ddilyn ein dolen JustGiving.