Dathlu'r hyn sy'n gwneud Eryri yn unigryw

Mae gan bob Parc Cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr restr o ‘Rhinweddau Arbennig’ – y rhinweddau sy’n gwneud pob parc yn unigryw. Mae’r rhinweddau hyn wrth wraidd yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Barc Cenedlaethol. Mae naw Rhinwedd Arbennig Eryri yn dangos beth sydd angen ei warchod a’i wella.

Tirweddau Amrywiol

Mae Eryri’n cynnwys tirweddau a threfedd amrywiol, o’r môr i’r mynydd. Mae’n un o’r ychydig leoedd yn y byd lle gallwch chi brofi’r holl amgylcheddau hyn o fewn pellter mor agos i’w gilydd.

an image of three women having an ice cream in Beddgelert after a bike ride
Cydlyniant Cymunedol

Ymdeimlad cadarn o hunaniaeth gymunedol fywiog sy’n cyfuno i roi ymdeimlad cryf o berthyn yn y 24 pentref a phum tref yn Eryri.

Enwau Cymraeg ar lynnoedd wedi eu cerfio ar wal
Bywiogrwydd yr Iaith Gymraeg

Mae bywiogrwydd y Gymraeg yn Eryri yn amlwg gan mai dyma’r iaith o ddewis mewn nifer o amgylchiadau proffesiynol a chymdeithasol.

Gwilym-Bowen-Rhys.
Ysbrydoliaeth ar gyfer y Celfyddydau

Mae Eryri wedi ysbrydoli peth o ddiwylliant, llên gwerin, llenyddiaeth a cherddoriaeth fwyaf nodedig y genedl.

Llonyddwch ac unigedd

Mae llonyddwch yn dal i fodoli mewn sawl rhan o Eryri. Yn ystod y dydd gallwch archwilio’r mynyddoedd mawr anghysbell a garw, ac yn y nos mwynhewch yr awyr dywyll dan y sêr.

Hamdden a Dysgu

Yn Eryri ceir cyfleoedd helaeth yn ymwneud â gweithgareddau hamddena a dysgu ar gyfer pobl o bob oed a gallu.

Golygfa o'r fynedfa yn Castell Harlech
Tirweddau Hanesyddol

Mae tirweddau Eryri wedi cael eu llunio gan ganrifoedd o weithgarwch dynol. Mae hanes, traddodiadau a ffyrdd o fyw yn cael eu hadlewyrchu mewn henebion, safleoedd, adeiladau, patrymau aneddiadau, caeau ac enwau lleoedd.

Cwm Idwal in mist and fog
Daeareg Byd Enwog

Mae Eryri wedi’i chreu drwy stori gymhleth o gyfandiroedd yn gwrthdaro, llosgfynyddoedd, ffurfio mynyddoedd, newidiadau yn y môr a rhewlifiant.

Golden Plover
Cynefinoedd a Rhywogaethau Rhyngwladol Bwysig

Mae 17 Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn Eryri a 56 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig—prawf o’r bioamrywiaeth aruthrol sy’n cael ei adlewyrchu yn y tirwedd amrywiol.

Dysgwch am Rinweddau Arbennig Eryri

Mae Cynllun Llysgennad Eryri yn cynnwys modiwl ar bob un o Rinweddau Arbennig Eryri. Darganfyddwch beth sy’n gwneud yr ardal yn unigryw.

Cofrestrwch i ddod yn Llysgennad Eryri