Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda ni yn Yr Ysgwrn!
Mwynhewch ddiwrnod llawn creadigrwydd, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan - i gyd am ddim.
Drwy gydol y dydd, bydd cyfle i ymwelwyr ymuno â theithiau tywys o amgylch y tŷ a dysgu mwy am ei hanes a’i dreftadaeth.
Rhaglen y dydd
10:15 – 11:45
- Creu draig neu Gennin Pedr helyg gydag Eirian Muse
- Sesiwn jamio ar iwcalili gyda Huwcalele
12:00 – 13:00
- Perfformiad arbennig gan Rhiannon O’Connor (Y Llais)
13:15 – 14:30
- Sesiwn jamio ar iwcalili gyda Huwcalele
- Gweithdy ysgrifennu cerddi gyda Mali Elwy
Archebu
Nid oes angen archebu, dewch draw!
Edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.