Wrth i’r broses o adolygu Cynllun Datblygu Lleol Eryri fynd rhagddo, daeth yr amser i alw am safleoedd ar gyfer datblygiadau posib, a hefyd lleoedd i’w gwarchod rhag datblygiad yn Eryri. Gall y safleoedd fod yn lleoliadau posib ar gyfer datblygu tai (gan gynnwys tai fforddiadwy), creu cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol, mannau manwerthu, llecynnau agored a defnyddiau tir eraill.
Cynllun Datblygu Lleol Eryri yw’r cynllun statudol sy’n llywio penderfyniadau yn ymwneud â datblygiadau o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Eryri. Adolygir y cynllun ar gyfnodau penodol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn parhau i fod yn berthnasol a’i fod yn mynd i’r afael ag anghenion cyfredol ein cymunedau. Bydd Cynllun Datblygu Lleol Eryri Newydd (CDLl3) yn weithredol am y cyfnod o 2026 hyd at 2041.
Yn unol â gofynion statudol Llywodraeth Cymru mae’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddilyn cyfres o gamau wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Y broses o alw am safleoedd posib yw un o’r camau cyntaf wrth baratoi’r Cynllun. Fodd bynnag, nid yw cynnig safle yn golygu bod sicrwydd y bydd yn cael ei gynnwys o fewn y Cynllun Datblygu Lleol. Bydd y safleoedd a gynigir yn cael eu asesu yn seiliedig ar nifer o ystyriaethau megis polisi cynllunio, dynodiadau amgylcheddol, hyfywedd a seilwaith. Bydd y safleoedd a ystyrir yn addas yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Adneuo a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus maes o law.
Meddai Elliw Owen, Pennaeth Polisi Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Mae derbyn safleoedd posib i’w hystyried yn ystod y cyfnod yma o fynd ati i ddiwygio y Cynllun Datblygu Lleol yn allweddol os ydym am gyflwyno cynllun sy’n ateb anghenion cyfredol ein cymunedau. Rydym yn awyddus i dderbyn safleoedd i’w hystyried gan berchnogion tir o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri – ond hefyd gan aelodau o’r cyhoedd, cynrychiolwyr grwpiau cymunedol a datblygwyr tai.”
Bydd y ffenestr i gyflwyno lleoliadau posib i’w hystyried ar gyfer datblygu ar agor o’r 17eg o Chwefror 2026 hyd yr 11eg o Fai 2026. Gellir cyflwyno safleoedd i’w hystyried trwy gwblhau ffurflen Cynnig Safle Posib ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ffurflenni papur hefyd ar gael o Swyddfa’r Parc Cenedlaethol neu o’i Ganolfannau Croeso yn ystod oriau agor.