Ymunwch â Davy Greenough ar daith cerdded meddylgarwch o amgylch rhai o leoliadau harddaf Barc Cenedlaethol Eryri. Ymgollwch yn yr amgylchedd naturiol wrth i chi ddilyn teithiau cerdded cymedrol yn Eryri gydag ysbeidiau rheolaidd ar gyfer myfyrdodau byr ar hyd y daith.
Ym mis Ebrill, byddwn yn mynd ar daith ar Lwybr Cynwch.
Mae gan yr ardal amrywiaeth wych o rinweddau. O gynefinoedd fel coetiroedd a dolydd i olygfeydd hudolus o gadwyni mynyddoedd Eryri. Bydd y llwybr yn mynd â chi drwy ran o stad Nannau sy’n dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif ac sy’n llawn hanes diddorol.
Manylion y daith
Lleoliad: Llwybr Cynwch
Dyddiad: Dydd Sadwrn, Ebrill 4ydd
Amser: Cyfarfod am 9:30yb
Lleoedd: 10
Pellter y daith: 3 milltir
Graddfa'r daith: Cymedrol
Cost: £5 y person
Canslo ac ymholiadau
Mi fydd Etta, ein Swyddog Gwirfoddoli a Lles yn anfon fwy o wybodaeth ynglŷn â'r daith yma atoch cyn y daith, gan gynnwys y lleoliad cyfarfod.
Os hoffech chi ganslo eich lle ar y daith neu wneud ymholiad ynglŷn â'r digwyddiad, cysyllwch â Etta.
Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
etta.trumper@eryri.llyw.cymru
Taith Gerdded Meddylgarwch: Llwybr Cynwch
From: £5.00
Ymgollwch yn natur Eryri ar deithiau cerdded meddylgarwch.