Gyda phenwythnos Gŵyl Banc y Pasg yn agosau, mae partneriaid yn dod at ei gilydd i annog ymwelwyr i fwynhau’r Parc Cenedlaethol, ond i gynllunio o flaen llaw er mwyn gwneud y mwyaf o’r tirweddau mewn ffyrdd cyfrifol a diogel.
Mae Eryri yn gweld cynnydd sylweddol yn niferoedd ymwelwyr i’r Parc Cenedlaethol dros gyfnod y Pasg, yn enwedig yn y safleoedd potiau mêl megis Yr Wyddfa, Ogwen a Llyn Tegid.
Tra mae’r cyfnod hwn yn gyfle gwych i bobl ddod i fwynhau’r awyr agored a’r buddiannau mae hynny yn ei gynnig o ran iechyd a lles a mwynhau cwmni cyfeillion a theulu, gall hefyd roi pwysau ychwanegol ar feysydd parcio, llwybrau a’r gwasanaethau brys.Timau Achub Mynydd Llanberis ac Ogwen yw’r ddau dîm prysuraf yn y Deyrnas Unedig ac maent yn barod eleni wedi profi’r nifer uchaf o alwadau ar gofnod, gyda rhai yn digwydd ar yr un diwrnod sy’n rhoi straen sylweddol ar y gwirfoddolwyr.
Dywedodd Tim Harrop o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen:
“Gall nifer o’r galwadau yr ydym yn derbyn cael eu hosgoi. Yn aml nid yw pobl yn paratoi yn ddigon trwyadl ar gyfer yr amodau, neu nid oes ganddyn nhw’r offer cywir. Gall y tywydd newid yn gyflym yng Ngogledd Cymru ac mae’n hynod bwysig bod yn barod ar gyfer hynny, a chofiwch mi allwch o hyd troi nôl, mi fydd y mynyddoedd yno am byth.”
Dywedodd Keira Sweenie Cyfarwyddwr Cynllunio a Phartneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Gall meysydd parcio ledled Eryri lenwi’n gyflym yn ystod cyfnodau brig, felly gall cyrraedd yn gynnar, ystyried trefniadau amgen a dewis lleoliadau llai prysur wella profiad pawb yn y Parc Cenedlaethol.
Mae maes parcio Pen y Pass yn gweithredu ar system rhagarchebu ac mae’n rhaid gwneud hynny o flaen llaw. Cynghorir modurwyr heb archeb i’r maes parcio penodol hwnnw beidio teithio i’r safle ond i ddefnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio gwych sydd ar gael o Lanberis a Nant Peris.
Gofynnwn i bawb ofalu am ein hamgylchedd drwy beidio â pharcio’n anghyfrifol a thrwy fynd â’u sbwriel adref.”
Ychwanegodd Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru Jamie Owens:
“Os ydych chi’n cynllunio mynydda yn Eryri, sicrhewch eich bod a’r offer cywir a pheidiwch â chymryd risgiau heb fod angen, mi eith hynny ymhell i gynorthwyo ein cydweithwyr yn y timau achub mynydd. Os ydych yn cynllunio cerdded gyda’r nos, os gwelwch yn dda gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’n dawel wrth gerdded trwy’r pentrefi er mwyn parchu’r trigolion.”
Gerwyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd (Trafnidiaeth) Cyngor Gwynedd
“Byddwn yn annog pawb sydd am fwynhau’r hyn sydd gan Wynedd i’w gynnig i ystyried opsiynau i deithio drwy gludiant cyhoeddus ble mae modd. Mae’r daith ar fws neu drên yn medru bod yn atyniad yn ei hun ac yn ffordd ffantastig i fwynhau’r golygfeydd godidog. Mae gwneud hyn hefyd yn lleihau problemau parcio a thagfeydd traffig sydd yn medru codi yn rhai o’r cyrchfannau mwyaf poblogaeth a lleoliadau amgylcheddol sensitif.”
“I’r rhai sydd am deithio yn y car gofynnwn i fodurwyr gynllunio eu taith ymlaen llaw gan barcio’n synhwyrol a pharchu’r cyfyngiadau parcio a chadw’r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel i ganiatáu’r gwasanaethau brys i fedru gwneud eu gwaith ac i sicrhau llif traffig.”
“Gyda’r tywydd gwael dros y Gaeaf wedi effeithio ar gyflwr nifer o lwybrau cyhoeddus Gwynedd, gan gynnwys gorfod cau ac ailgyfeirio rhai o’r llwybrau arfordir mae’n bwysig fod unrhyw un sydd am fentro ar y llwybrau hyn yn cymryd hyn i ystyriaeth gan gynllunio ymlaen llaw, osgoi’r ardaloedd sydd ar gau a gwisgo’n bwrpasol.”
Annogir ymwelwyr i ymgyfarwyddo a’r Côd Cefn Gwlad a negeseuon Mentra’nGall er mwyn i bawb allu mwynhau Eryri dros y penwythnos.