Dan arweiniad Alun Jones, Warden Yr Wyddfa.

Ymunwch â ni ar gyfer Taith y Warden y mis hwn, dan arweiniad Alun Jones, ar daith 5 milltir o amgylch Rhyd Ddu. Bydd uchafbwyntiau’r daith yn cynnwys Cwm Marchnad, Llyn Llywelyn a Lôn Gwyrfai, gan gynnig cyfle gwych i archwilio tirweddau trawiadol yr ardal.

Manylion y daith gerdded

I archebu eich lle, cysylltwch efo cyfathrebu@eryri.llyw.cymru

Gweld map o'r llwybr. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod gydag offer cerdded priodol, gan gynnwys dillad dal dŵr, esgidiau cerdded mynydd cadarn, a digon o fyrbrydau a dŵr i’ch cadw i fynd drwy’r bore.

Pwysig: Mae darn byr heriol ar y daith hon yn cynnwys croesi rhyd. Rhaid i fynychwyr fod yn barod ar gyfer yr amodau.

 

Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.