Cynhaliwyd cynhadledd dri diwrnod yn ddiweddar ym Mhrifysgol Bangor a ddaeth â phartneriaid, arbenigwyr a rhanddeiliaid ynghyd i ddathlu cynnydd Prosiect LIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru wrth i ni nesáu at ddiwedd cyfnod y gwaith.
Bellach yn ei wythfed mlynedd, mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar warchod ac adfer ardaloedd o goedwigoedd glaw tymherus dros rannau o Gymru. Dros gyfnod y gynhadledd, bu’r mynychwyr yn ystyried ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma, yn ogystal a’r hyn sydd angen digwydd nesaf i sicrhau fod y gwaith hwn yn parhau yn yr hir dymor.
Roedd y sesiynau’n ymdrin â meysydd allweddol megis mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol, pori cadwraethol, adfer coetiroedd hynafol ac ymgysylltu â chymunedau lleol. Rhoddodd y gweithdai gyfle i fynychwyr rannu profiadau a helpu i lunio blaenoriaethau’r dyfodol, tra bod ymweliadau maes yn cynnig cyfle i weld gwaith ar lawr gwlad.
Agorwyd y gynhadledd gan Liz Saville Roberts, gyda chyfraniadau gan amrywaieth o siaradwyr gan gynnwys Ian McDaid o Barc Cenedlaethol Glenveagh a’r awdur Carwyn Graves, yn ogystal â chynrychiolwyr o Gynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru.
Wrth siarad yn y gynhadledd dywedodd Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Mae’r gynhadledd yn foment bwysig i gydnabod y cynnydd sydd wedi ei wneud ac i feddwl sut y gellir cario’r momentwm hwnnw ymlaen. Mae Coedwigoedd Glaw tymherus ymhlith y cynefinoedd mwyaf bregus ym Mhrydain ac mae eu hadfer yn chwarae rhan bwysig wrth ymateb i’r heriau ehangach sy’n ymwneud â natur a’r hinsawdd. Yn ogystal â hybu bioamrywiaeth, maent yn cyfrannu at storio carbon, rheoli dŵr a gwydnwch ein tirweddau.”
Thema bwysig oedd yn ganolbwynt i’r gynhadledd oedd pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth. Mae’r cynnydd wnaed hyd yma wedi dibynnu ar sefydliadau, rheolwyr tir a chymunedau’n cydweithio, ac roedd pwyslais ar i hyn barhau ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Kylie Jones-Mattock Cyfarwyddwr Coed Cadw yng Nghymru:
“Wrth fod yn yr ystafell wrth i egin y syniad o brosiect Coedwigoedd Glaw LIFE gael ei ffurfio, mae’n anhygoel gweld faint mae’r prosiect wedi ei gyflawni ddegawd yn ddiweddarach. Mae’r wyth mlynedd diwethaf wedi dysgu gymaint i ni am y manteision o weithio mewn partneriaeth a phwysigrwydd buddsoddiad hirdymor os ydym am adfer natur ar raddfa eang, a gallwn ddysgu oddi wrth hynny wrth i ni gymryd y camau nesaf gyda’n gilydd.”
Gyda’r prosiect yn dynesu at y diwedd, mae’r sylw’n troi at beth ddaw nesaf. Mae gwaith ar droed i ddatblygu cynllun etifeddiaeth a fydd yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni ac yn gosod targedau hirdymor ar gyfer adfer ein coedwigoedd glaw.
Dros y misoedd nesaf bydd cyfleoedd i bobl gymryd rhan a darganfod mwy am y prosiect. Bydd y tîm yn mynychu digwyddiadau megis Sioe Meirion a Sioe Ceredigion lle gall ymwelwyr ddysgu mwy am y gwaith a siarad â’r rhai oedd ynghlwm.