Datganiad gan y Cyng. Ifor Glyn Lloyd yn dilyn cael ei ethol fel Cadeirydd newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
“Mae’n fraint o’r mwyaf i mi gael fy ethol yn Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’m cyd-aelodau am roi eu hymddiriedaeth ynof. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i ‘r Cyng. Edgar Wyn Owen am ei ymroddiad, ei arweinyddiaeth a’i wasanaeth gwerthfawr i’r Awdurdod ac i Eryri yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.
Rwyf wedi bod yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ers 2014 ac yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ers dros ddegawd, gan wasanaethu fel Is-gadeirydd am y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwy’n byw ac yn ffermio yn Llanfair Talhaiarn, ac mae gennyf gysylltiadau dwfn a phersonol ag Eryri drwy fy nheulu, fy ngwaith a’m diddordebau diwylliannol.
Ers fy nyddiau yn y brifysgol, rwyf wedi bod yn frwdfrydig dros yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweithio gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol ar ddatblygu a gweithredu cynlluniau i warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol. Yn ogystal â hynny, mae fy mhrofiad ym maes ffermio, addysg a chynllunio wedi rhoi dealltwriaeth eang imi o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau gwledig a’n tirweddau gwarchodedig.
Wrth edrych ymlaen, rwy’n gyffrous am y cyfleoedd sydd o’n blaenau, gan gynnwys rhai o brosiectau mwyaf uchelgeisiol yr Awdurdod megis datblygiad Plas Tan y Bwlch. Ar yr un pryd, rwy’n edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol gydag egni, angerdd a phenderfyniad. Bydd adfer natur a gwarchod y tirweddau arbennig sydd dan ein gofal yn flaenoriaethau allweddol, ynghyd â gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ddatblygu atebion cynaliadwy i faterion megis parcio a rheoli ymwelwyr mewn mannau poblogaidd.
Fel Cadeirydd, fy uchelgais yw sicrhau bod amgylchedd naturiol Eryri yn cael ei ddiogelu a’i wella er budd cenedlaethau’r dyfodol. Edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos â thîm arweinyddiaeth yr Awdurdod, staff, yr Is-gadeirydd a’r aelodau er mwyn sicrhau bod y Parc Cenedlaethol yn parhau i gynnig profiadau unigryw ac ysbrydoledig i ymwelwyr, gan hefyd gefnogi busnesau lleol, ffermwyr a’r economi wledig.
Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy, yn cryfhau’r economi leol, yn cefnogi ffermio cynaliadwy ac yn gwarchod y bywyd gwyllt a’r ecosystemau sy’n gwneud Eryri mor arbennig. Ar yr un pryd, mae’n hanfodol bod ein cymunedau yn parhau wrth galon pob penderfyniad. Os daw ardoll ymwelwyr i rym yn y dyfodol, byddaf yn gweithio i sicrhau bod budd gwirioneddol i’n cymunedau lleol ac y bydd ein hiaith, ein diwylliant a’n ffordd o fyw yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo.
Mae Eryri yn dirwedd o bwysigrwydd rhyngwladol, ond mae hefyd yn gartref i filoedd o bobl. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, partneriaid a chymunedau ledled y Parc Cenedlaethol i sicrhau bod Eryri yn parhau yn lle lle gall natur, diwylliant a chymunedau ffynnu gyda’i gilydd.”