Cyhoeddi llyfr arbennig ‘Parc Cenedlaethol Eryri National Park: Etifeddiaeth ar Waith – A living legacy’ i ddathlu 75 mlynedd ers dynodiad Eryri’n Barc Cenedlaethol.

Mae 2026 yn flwyddyn go arbennig i Barc Cenedlaethol Eryri gan fod y flwyddyn yn nodi 75 mlynedd ers ei ddynodiad. Er mwyn dathlu’r achlysur, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a gwasg Y Lolfa wedi dod ynghyd i gyd-gyhoeddi’r llyfr ‘Parc Cenedlaethol Eryri National Park: Etifeddiaeth ar waith – A living legacy’.
Mae’r llyfr dogfennol dwyieithog yn cyflwyno rhinweddau arbennig Eryri trwy lygaid deg o awduron gwadd angerddol, wedi eu hategu gan ddelweddau trawiadol gan ffotograffwyr brwd. O’r tirweddau hynod a chymunedau bywiog, i ddylanwad Eryri ar y celfyddydau – mae’r llyfr hwn yn rhoi cipolwg ar yr hyn sy’n gwneud Eryri’n arbennig.
Gerallt Pennant sy’n agor y gyfrol gyda chyflwyniad angerddol am ei berthynas ef ag Eryri, gan annog y darllenydd i ystyried beth mae Eryri yn ei olygu iddynt hwythau. Ceir hefyd ychydig o hanes dynodi Eryri’n Barc Cenedlaethol, a’r ymgyrchu a arweiniodd at sefydlu Parciau Cenedlaethol yn y DU.
Meddai Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Mae yna gymaint o wahanol elfennau sy’n gwneud Eryri mor arbennig, ac mae’n golygu rhywbeth gwahanol i bawb sydd â chysylltiad â’r ardal. Nod y llyfr hwn yw dathlu’r pethau bach a mawr, yr amlwg a’r anweledig sy’n ffurfio Parc Cenedlaethol Eryri, a gobeithio, meithrin balchder a gwerthfawrogiad yn yr ardal arbennig yma er mwyn ei gynnal a’i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.
 
Meddai Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi Y Lolfa:
“Rydym yn eithriadol o falch o gydweithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ar y gyfrol hon ac yn hynod falch o waith yr holl awduron talentog sydd wedi creu portreadau amrywiol a disglair o bwysigrwydd Eryri mewn cymaint o feysydd”.
 
Bydd y llyfr yn cael ei lansio’n swyddogol mewn digwyddiad arbennig yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd ar nos Iau yr 16eg o Orffennaf. Bydd ar gael i’w brynu gan lyfrwerthwyr ledled Cymru a thu hwnt, yn ogystal ag ar siop ar-lein Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.