Blwyddyn o ddathlu tirweddau, cymunedau, diwylliant a dyfodol Eryri
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn nodi carreg filltir hanesyddol eleni wrth ddathlu 75 mlynedd ers dynodi Eryri yn Barc Cenedlaethol.
Mae’r pen-blwydd yn rhan o flwyddyn arbennig i fudiad y Parciau Cenedlaethol, gyda’r Peak District, Parc Cenedlaethol dynodedig cyntaf ym Mhrydain, yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed ym mis Gorffennaf, cyn i Eryri, Dartmoor ac Ardal y Llynnoedd nodi’r achlysur yn nes ymlaen yn yr hydref.
I nodi’r garreg filltir, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol y Peak District wedi comisiynu adroddiad arbennig sy’n canolbwyntio ar y rhesymau sefydlwyd Parciau Cenedlaethol, yn dathlu eu llwyddiannau dros y 75 mlynedd diwethaf, ac yn ystyried yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu tirweddau gwarchodedig yn y dyfodol.
Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio mewn digwyddiad arbennig yn Bakewell, gan ddod â chynrychiolwyr o feysydd llywodraeth, cadwraeth, amaethyddiaeth, cymunedau a phartneriaid ynghyd i drafod rôl Parciau Cenedlaethol yn y dyfodol wrth fynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf ein amser, o adfer natur a newid hinsawdd i fynediad, llesiant a chefnogi cymunedau cynaliadwy.
I Eryri, mae’r garreg filltir hon hefyd yn gyfle i adrodd stori unigryw Cymru, stori sydd wedi’i gwreiddio yn ein hiaith, ein diwylliant, ein cymunedau ac mewn tirwedd sydd wedi’i llunio gan genedlaethau.
Wedi’i ddynodi ym 1951, Eryri oedd Parc Cenedlaethol cyntaf Cymru. Heddiw, mae’n parhau i fod yn dirwedd o bwysigrwydd rhyngwladol, yn gartref i gymunedau byw, bioamrywiaeth gyfoethog, miloedd o flynyddoedd o hanes a’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg mewn unrhyw Barc Cenedlaethol. Yn dilyn Eryri, dynodwyd Arfordir Penfro yn Barc Cenedlaethol yn 1952 a Bannau Brycheiniog yn 1957.
Er mwyn dathlu’r pen-blwydd arbennig hwn, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi datblygu rhaglen o ddigwyddiadau a phartneriaethau drwy gydol y flwyddyn sy’n dathlu’r rhinweddau arbennig sy’n gwneud Eryri mor unigryw.
Mae cystadlaethau barddoniaeth yr Awdurdod hefyd ar agor drwy gydol yr haf, gan barhau traddodiad llenyddol cryf Eryri. Bydd enillwyr y categorïau Dan 11, Dan 18 ac Agored yn derbyn cadeiriau barddol wedi’u comisiynu’n arbennig mewn seremoni yn Yr Ysgwrn ar 21 Hydref.
Bydd rhan allweddol o’r dathliadau yn dechrau ddydd Iau, 16 Gorffennaf, gyda lansiad swyddogol ‘Parc Cenedlaethol Eryri: Etifeddiaeth ar Waith’ yn Yr Ysgwrn. Mae’r llyfr dwyieithog yn dathlu hanes, tirweddau, cymunedau a diwylliant Eryri drwy gyfraniadau deg o awduron gwadd, ynghyd â chasgliad o ffotograffau trawiadol. Mae’n cynnig persbectif unigryw ar y rhinweddau arbennig sy’n gwneud Eryri yn lle mor eithriadol.
Ar yr un diwrnod, bydd yr Awdurdod yn lansio Pasbort Digidol Eryri, profiad rhyngweithiol sy’n annog pobl i ddarganfod lleoliadau newydd ar draws y Parc Cenedlaethol. Bydd y pasbort yn cynnwys 75 o leoliadau hygyrch ledled Eryri, gan annog trigolion ac ymwelwyr i archwilio ardaloedd nad ydynt efallai wedi’u darganfod o’r blaen.
Bydd y 25 person cyntaf i gwblhau her y Pasbort Digidol yn derbyn gwobr arbennig, naill ai copi o ‘Parc Cenedlaethol Eryri: Etifeddiaeth ar Waith’ neu grys-t arbennig sydd wedi’i greu mewn cydweithrediad â’r cwmni Pen Wiwar.
Mae’r bartneriaeth gyda’r brand lleol Pen Wiwar yn rhan arall o’r dathliadau, gyda dyluniad arbennig wedi’i greu i adlewyrchu holl rinweddau arbennig Eryri. Mae’r Awdurdod hefyd wedi cydweithio gyda Cwrw Nant ar rediad arbennig o Gwrw’r Wyddfa, tra bydd Tirlais yn cynhyrchu seidr unigryw gan ddefnyddio afalau o Blas Tan y Bwlch.
Bydd y dathliadau diwylliannol yn parhau gyda Miri Medi Eryri, gŵyl gymunedol a gynhelir yn Yr Ysgwrn fydd yn dod â cherddoriaeth fyw leol, siaradwyr gwadd, gweithgareddau i blant, cynhyrchwyr lleol a sefydliadau partner ynghyd i ddathlu diwylliant a chymunedau Eryri.
Drwy gydol blwyddyn y pen-blwydd, bydd yr Awdurdod hefyd yn codi arian tuag at Ymchwil Cancr Cymru a Hosbis Plant Tŷ Gobaith.
Un o uchafbwyntiau’r ymdrechion codi arian fydd Her Gyfnewid Eryri 75 ar 16 o Hydref, pan fydd staff, Aelodau’r Awdurdod a gwirfoddolwyr yn teithio drwy’r Parc Cenedlaethol. Mi fydd dau grŵp yn cychwyn o ogledd a de Eryri, pob un yn cwblhau taith 75cm cyn cyfarfod ym Mhlas Tan y Bwlch ar gyfer dathliad gyda’r nos.
Dywedodd Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Ers 75 mlynedd, mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cynrychioli rhywbeth gwirioneddol arbennig, nid tirwedd eiconig yn unig, ond rhywle ble mae cymunedau, diwylliant, iaith a natur wedi’u plethu â’i gilydd.
“Mae’r pen-blwydd hwn yn rhoi cyfle inni ddathlu popeth sydd wedi’i gyflawni hyd yma, ond hefyd i edrych tua’r dyfodol. Mae’r heriau sy’n wynebu Parciau Cenedlaethol heddiw yn wahanol iawn i’r rhai oedd yn bodoli ym 1951, o newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth i gefnogi cymunedau cynaliadwy, ond mae’r angen i warchod y llefydd arbennig hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol mor bwysig ag erioed.
“Fel Parc Cenedlaethol cyntaf Cymru, mae stori Eryri yn stori sy’n cynrhychioli Cymru. Mae’n stori sydd wedi’i llunio gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma, gan ein hiaith, ein traddodiadau a’n perthynas â’r dirwedd o’n cwmpas.
“Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu’r garreg filltir hon gyda’n cymunedau, partneriaid ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae rheolau Cystadleuaethau Barddoniaeth Eryri ar gael ar wefan yr Awdurdod.
- Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau gan y wasg, cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, drwy e-bostio ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru.