Oes gennych chi ddiddordeb yn nyfodol coedwigoedd glaw tymherus Eryri? Oes gennych chi wybodaeth a allai helpu i lunio cynllun etifeddiaeth y prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE? Yna ymunwch â'r drafodaeth
Gyda phrif amcanion y prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE mewn golwg – rheoli rhywogaethau ymledol, rheoli coetiroedd, ac ymgysylltu ac addysg – gofynnir i randdeiliaid rannu eu meddyliau a'u syniadau ar sut i sicrhau etifeddiaeth hirdymor i'r prosiect, a rhannu gwybodaeth werthfawr ar ble a sut y dylid targedu prosiectau etifeddiaeth yn Eryri er mwyn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd drwy'r prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE dros yr 8 mlynedd diwethaf.
Lle: Neuadd y Pentref Llanelltyd. Llanelltyd, Dolgellau
Pryd: 15 Medi 2026.
Bydd y diwrnod yn cael ei rannu'n ddwy sesiwn, fel a ganlyn:
Sesiwn y Bore (10:00 – 13:30 gan gynnwys cinio) - bydd hon yn sesiwn weithdy fwy ffurfiol, wedi'i hwyluso, gyda'r nod o gasglu gwybodaeth allweddol i gynorthwyo datblygiad Cynllun AfterLIFE y prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE – y pwy, beth, ble, pryd a sut.
Sesiwn y Prynhawn (13:30 – 16:00) – bydd hon yn sesiwn galw heibio i'r rhai sy'n dymuno cyfrannu eu syniadau a'u gwybodaeth mewn lleoliad llai ffurfiol, neu i'r rhai sydd eisiau dysgu ychydig mwy am waith Celtic Rainforests LIFE. Bydd staff o'r prosiect wrth law i siarad â'r rhai sy'n mynychu'r sesiwn galw heibio, ac i gofnodi'r trafodaethau a gafwyd.
Gweithdy Cynllun AfterLIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE
Dewch i ymuno a’r drafodaeth i helpu llunio cynllun etifeddiaeth y prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE