Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra ar gyfer y rhai sydd eisoes â rhywfaint o brofiad o weithio gyda chalchau adeiladu. Bydd yn ddiwrnod llawn o hyfforddiant ymarferol yn canolbwyntio ar y waliau rwbel carreg solet sy'n gyffredin yn y Parc Cenedlaethol.

Byddwn yn dangos gwahanol ddulliau o gymysgu calchau aer a chalchau hydrolig. Byddwn yn ymdrin â sut i gloddio hen forterau allan a byddwn yn dangos sut i ail-adeiladu rhannau lleol o waliau rhydd neu ansefydlog. Byddwn hefyd yn edrych ar bwyntio dwfn, pacio, a'r gwahanol dechnegau a gorffeniadau pwyntio a ddefnyddir i gydweddu morterau hanesyddol. Mae hwn yn ddiwrnod ymarferol iawn, gyda digon o gyfleoedd i ofyn cwestiynau a dysgu gan hyfforddwyr sydd â blynyddoedd o brofiad yn y maes.

Dewch â'ch cinio a'ch byrbrydau eich hun, yn ogystal â dillad gwaith nad oes ots gennych eu baeddu. Byddwn ni'n darparu'r offer, y cyfarpar diogelu personol (PPE), a'r holl ddeunyddiau y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs

 

 

Manylion y Digwyddiad:

Dyddiad: 25 Medi 2026

Lleoliad: Plas Tirion, The Natural Building Centre, Betws Road, Llanrwst, Conwy LL26 0PU

Amser: 09:30- 16:00

Llefydd ar gael: 12

Blaendal: Rydym yn gofyn am flaendal o £20 a fydd yn cael ei ad-dalu ar ôl y cwrs.

Mae'r hyfforddiant yma'n cael ei gynnal drwy gefnogaeth ariannol gan LleChi LleNi

Archebu lle
Sesiwn
Medi 25, 2026 (09:30 - 16:00)
Nifer o fynychwyr

Cwrs Adeiladu a Phwyntio gyda Morterau Calch Uwch

From: £20.00

Cwrs uwch ar gyfer y rhai sydd eisoes â rhywfaint o brofiad o weithio gyda chalch.

Category: