Ymnuwch â ni ar gyfer diwrnod o ddathlu 75 mlynedd o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri!

Dewch draw i'r Ysgwrn i fwynhau prynhawn o gerddoriaeth fyw, gweithgareddau plant, stondinau bwyd a diod lleol, siaradwyr gwadd ac i ddysgu mwy am waith yr Awdurdod a sefydliadau partner. Bydd ymweliadau i gartref Hedd Wyn hefyd ar gael ar y diwrnod.

Manylion y digwyddiad:

Pryd: 26 Medi 2026

Amser: 12:00- 18:00

Lle: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd LL41 4UW

Cost: Am ddim

Nifer o lefydd ar gael: 400

*Noder na fydd parcio ar gael ar y safle ar y diwrnod, bydd rhaid i fynychwyr barcio ym maes parcio'r Atomfa yn Nhrawfynydd lle bydd gwasanaeth bws wennol i'ch tywys i'r Ysgwrn. Bydd y gwasanaeth yn stopio yn y safle bws yn Nhrawsfynydd.

 

 

**Os ydych yn ddeilydd bathodyn glas cysylltwch i wneud trefniadau.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â cyfathrebu@eryri.llyw.cymru

Mae'r ŵyl hon am ddim i'r holl fynychwyr gyda diolch i Gronfa Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru.

Archebu lle
Sesiwn
Medi 26, 2026 (12:00 - 18:00)
Nifer o fynychwyr

Gŵyl Miri Medi Eryri

Ymunwch â ni ar gyfer diwrnod i ddathlu 75 mlynedd o Parc Cenedlaethol Eryri

Category: