Cwestiynau Cyffredin: Cais i’r Arolygiaeth Gynllunio am ffensys ffiniau allanol ar Gomin Tal-y-Fan (i leihau symudiad da byw oddi ar y mynydd) 

Rhoi gwybodaeth i’r gymuned a gobeithio cael cefnogaeth i ateb i’r broblem hirsefydlog am ddefaid a merlod yn gwyro oddi ar y comin ac i’r cymunedau a’r A55, yn ardal Dwygyfylchi.  

Nod y datrysiadau yw diogelu da byw, bywoliaethau a sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd. 

 

Ystadegau digwyddiadau yr A55 wedi’u cofnodi gan y Tîm Plismona Bro lleol 

2026. Hyd yn hyn mae 30 adroddiad am ddefaid ac 8 adroddiad am
2025. 36 adroddiad am ddefaid a 27 o adroddiadau am ferlod 

NODER: dim ond yn 2025 y dechreuwyd cofnodi niferoedd merlod yn ogystal â defaid felly nid yw ystadegau blaenorol ar gael.  

2024. 27 adroddiad am ddefaid
2023. 65 adroddiad am ddefaid
2022. 117 o adroddiadau am ddefaid
2021. 76 o adroddiadau am ddefaid

Mae swyddogion o Barc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn ymgynghori â phorwyr a sefydliadau eraill i ddyfeisio cynllun i leihau achosion o dda byw yn crwydro oddi ar y comin.  

Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys ffensys a gatiau ar hyd y ffin a amlinellir ar y map isod: 

Er ein bod yn credu y bydd hyn yn effeithiol o ran lleihau digwyddiadau, efallai na fydd y cynnig yn atal da byw yn crwydro oddi ar y comin yn gyfan gwbl. Mae angen cymryd camau i fynd i’r afael â hyn, ac, er y cydnabyddir y gallai rhai achosion ddigwydd o hyd, credir y bydd y cynigion hyn yn cael effaith sylweddol wrth atal achosion o grwydro ac atal digwyddiadau a allai fod yn beryglus rhag digwydd ar yr A55 a’r ffyrdd cyfagos, a’r angen i gau ffyrdd a’r anghyfleustra o ganlyniad i hynny y mae hyn yn ei achosi i drigolion lleol.      

Bydd y gwaith ffensio hefyd yn cael ei gefnogi gan waith plannu coed mewn ardaloedd addas er mwyn atal twf rhedyn yn y tymor hir, gan wella bioamrywiaeth a lleihau’r risg o dân yn y rhan hon lle na fyddai pori’n digwydd. 

Er mwyn bwrw ymlaen â’r cynnig i’r Arolygiaeth Gynllunio, o ystyried bod y safle ar dir comin, mae angen i ni ddangos ein bod wedi ymgynghori â’r gymuned leol a defnyddwyr yr ardal, bod eu sylwadau a’u pryderon wedi’u hystyried ac, lle bo hynny’n briodol, wedi’u hymgorffori yn y cynnig. 

Gall y broses Arolygiaeth Gynllunio gymryd 3-6 mis.  

Swyddogion a Chynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, swyddogion a chynrychiolwyr cyfreithiol Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cenedlaethol Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, Llywodraeth Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r porwyr eu hunain ar ffurf Cymdeithas Porwyr Comin Tal-y-Fan. 

  • Gosod gridiau gwartheg – ystyriwyd bod hyn yn amhosibl ar hyn o bryd oherwydd agweddau ar y ffordd (troeon, llethr, gwelededd) a chyflymder traffig.  

Efallai y bydd hyn yn opsiwn yn y dyfodol, fodd bynnag, ar hyn o bryd bydd yr astudiaeth ddichonoldeb dros £10,000 heb sicrwydd y byddai safle addas ar gael. Byddai gosod grid (os yw’n bosibl) yn ddrud a gyda chaffael tir, waliau cynnal neu lethrau cynnal ac o ystyried y tir heriol gall fod yn anfforddiadwy.  

Mae pryderon hefyd am grid yn cael ei gyflwyno i Fwlch Sychnant o ystyried y defnydd trwm traffig o’r ffordd hon.  

  • Ffensio OPSIWN B, sy’n cau 26ha o’r Comin.  

Mae ail opsiwn llinell ffens wedi’i ymchwilio gyda’r porwyr ond byddai’n arwain at atodi 26ha o dir comin, a fyddai’n llai tebygol o gael ei gymeradwyo gan yr Arolygiaeth Gynllunio ac ni fyddai mynediad pori yno, ac fe allai hyn ddod yn fwy problematig o ran rheoli llystyfiant a’r perygl o dân. 

 

  • Gwneud dim byd – mae hyn anymarferol oherwydd natur a difrifoldeb y materion a amlinellir.  

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn trefnu ac yn cyflwyno’r Cais ac mae’r Awdurdod  wedi cytuno i dalu’r gost ar gyfer codi’r ffens a’r gatiau mynediad a fydd yn costio oddeutu £9,000.  

Bydd y ffensys yn ddeunyddiau ffensys wedi’u seilio ar ddur, oherwydd natur greigiog y ddaear a’r perygl tân i byst pren. Bydd cwmnïau lleol yn cael eu ffafrio ar gyfer gosod lle bo modd.  

Pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, mae APCE yn gobeithio gwneud y gwaith ffensio cyn gynted â phosibl. 

Mae Cymdeithas Porwyr Comin Tal y Fan wedi cytuno i wneud y gwaith cynnal a chadw a gofalu bod y ffens yn cael ei gynnal mewn cyflwr da yn y tymor hir.  

 Os nad ydych yn gallu mynychu’r sesiwn gal heibio, mae cyfle i chi roi adborth i ni drwy’r linc canlynol – Ffurflen adborth – Comin Tal y Fan