Penodwyd y bardd Meleri Davies yn Artist Mewn Gwasanaeth cyntaf Parc Cenedlaethol Eryri. Dyma’r tro cyntaf i’r Awdurdod benodi Artist Mewn Gwasanaeth a mae’n’ dilyn ôl troed nifer o sefydliadau eraill ar draws Cymru sydd wedi penodi artistiaid i gefnogi eu gwaith.

Yn rhinwedd ei rol bydd yn cefnogi taith y Parc Cenedlaethol wrth iddynt ddatblygu prosiect Plas y Bobol – prosiect uchelgeisiol i ddatblygu pencadlys a chanolfan gymunedol ym Mhlas Tan y Bwlch ger Maentwrog. Cefnogi, cofnodi a chyfathrebu’r daith hon ar ffurf artistig fydd gwaith Meleri ac yn ystod ei chyfnod yn y rol, y bwriad yw defnyddio barddoniaeth a dulliau celfyddydol eraill i rannu newyddion am y prosiect, ond hefyd i ymgysylltu.

Yn ôl Meleri,

“Dwi’n gweld fy hun fel pont, rhwng y Parc a’r cymunedau lleol sy’n amgylchynnu’r Plas. Mae ‘na gymaint o ystyriaethau wrth ddatblygu canolfan eiconig fel Plas Tan y Bwlch ond mae ‘na hefyd gyfoeth o wybodaeth lleol a chymunedol sydd angen bwydo fewn i’r broses. Dwi’n gobeithio y galla i weithio efo’r cymunedau lleol yn greadigol i gyfleu straeon a negeseuon pwysig i’r Parc wrth iddyn nhw gynllunio datblygiad y Plas.”

Pam sefydlu’r rol?

Mae’r rol yn gam pwysig ymlaen o ran cydnabod rol creadigrwydd i gyfathrebu gwaith cyrff cyhoeddus.

Meddai Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Sefydlwyd prosiect Plas y Bobol mewn ymateb i alw clir gan drigolion a phobl ifanc lleol am gyfleoedd celfyddydol a diwylliannol o safon uchel yn yr ardal. Mae mynediad at gelfyddydau byw a chyfleoedd creadigol mewn ardaloedd gwledig yn gyfyngedig, felly nod y prosiect hwn yw llenwi’r bwlch, gan roi llwyfan i leisiau lleol. Trwy hynny bydd y prosiect yn adeiladu ar waddol Plas Tan y Bwlch fel canolfan addysg sydd wedi ysbrydoli cadwraethwyr ac artistiaid o bob cwr o’r wlad a thu hwnt.”

Bydd Meleri yn gweithio am ymron i flwyddyn gyda’r Parc a chymunedau Maentwrog, Llanfrothen, Ffestiniog, Talsarnau, Porthmadog a Phenrhyndeudraeth. Bydd ffocws y gwaith ar ymgysylltu cymunedol yn greadigol gan dynnu trigolion lleol ac yn arbennig bobol ifanc i fewn i’r gwaith. Bydd hyn yn cydfynd gyda chynlluniau cyffrous y Parc ar y cyd a Chwmni Theatr y Fran Wen i ddatblygu prosiectau ceflyddydol yn yr ardal.

Meddai Naomi Jones, Cyfarwyddwr Rheolaeth Tir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Bydd y bartneriaeth gyda chwmni drama ieuenctid Frân Wen ac artistiaid amlddisgyblaethol lleol eraill yn cynnig cyfleoedd gwych ac unigryw i bobl ifanc.  Trwy raglen o weithgareddau gydgynhyrchiol sy’n cyfuno’r amgylchedd naturiol, yr iaith Gymraeg a mynegiad creadigol, bydd cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau creadigol, a meithrin hyder a pherthynas gyda’r dirwedd o’u cwmpas a’u hunaniaeth ddiwylliannol.”

Pwy ydy’r artist?

Er yn byw yn Nyffryn Ogwen bellach, merch o Feirionnydd yw Meleri ac fe’i magwyd yng Nghwm Prysor. Mae ganddi gysylltiadau teuluol agos gyda’r ardal a chysylltiadau proffesiynol yn deillio o’i gwaith datblygu cymunedol ar draws Gwynedd dros gyfnod o 10 mlynedd a mwy. Meleri oedd Prif Weithredwraig Partneriaeth Ogwen am 10 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw, gweithiodd yn agos gyda mudiadau megis Cwmni Bro Ffestiniog a Cymunedoli.

“Hogan o Feirionnydd ydw i a dwi wrth fy modd mod i’n cael dod nol adra i weithio ar y prosiect yma. Oherwydd fy mhrofiad datblygu cymunedol, mi fydda i’n dechrau wrth fy nhraed ac yn cysylltu efo mentrau cymunedol y dalgylch i fynychu digwyddiadau perthnasol yn lleol. Mi fyddai hefyd yn gweithio gyda thîm y Parc ac artistiaid lleol i drefnu gweithdai creadigol yn yr ardal.”

Mae Meleri bellach yn rhannu ei gwaith proffesiynol rhwng ysgrifennu a gwaith ymgynghorol i gefnogi prosiectau cymunedol. Enillodd ei chyfrol cyntaf o farddoniaeth ‘Rhuo ei distawrwydd hi’ wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Barddoniaeth yn 2025 ac ailargraffwyd y gyfrol 4 gwaith mewn cyfnod o 9 mis. Bydd ei gwaith theatrig cyntaf yn cael ei lwyfannu yn fuan yn 2026 yn ogystal â chyhoeddi ei nofel gyntaf yng Ngwanwyn 2026.

“Mae creadigrwydd wedi bod yn rym trawsffurfiol yn fy mywyd i a dwi’n gobeithio gallu rhannu hynny i ymgysylltu ac ysbrydoli yn ystod fy nghyfnod fel Artist Mewn Gwasanaeth. Dwi’n sicr y bydd gwneud hynny yn cryfhau perthynas y Parc â chymunedau lleol wrth iddyn nhw ddatblygu Plas y Bobol.”