Bu farw’r amaethwr a cheidwad Yr Ysgwrn, Mr Gerald Williams, ar Fehefin yr 11eg 2021.
Ganed Gerald Williams yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, yn 1929, yn fab i Ivor ac Ann Williams, yr ieuengaf ond un o frodyr a chwiorydd y Prifardd Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn. Gerald oedd yr ail o’u pedwar plentyn ac yn sgil marwolaeth eu Mam, magwyd Gerald a’i ddiweddar frawd hŷn, Ellis, yn Yr Ysgwrn gan eu Nain a’u Taid. Derbyniodd ei addysg yn Nhrawsfynydd a Blaenau Ffestiniog cyn dychwelyd adref i’r Ysgwrn i helpu ei Daid a’i ewythrod ar y fferm. Treuliodd ei oes yn ffermio’r Ysgwrn ac ynghyd ag Ellis, anrhydeddodd addewid a wnaeth y ddau i’w Nain, “i gadw’r drws yn agored” drwy estyn croeso i’r lliaws ymwelwyr â’r Ysgwrn oedd am gael talu teyrnged i Hedd Wyn.
Diolch i waith diflino Gerald a’r teulu, cadwyd y cof cenedlaethol o Hedd Wyn a’r genhedlaeth o Gymry ifanc a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw. Mae’r Ysgwrn yn gofeb heddychlon, diwylliannol a hynny’n glod yn wir i waith arbennig Gerald a’r teulu. Drwy ei gymeriad rhadlon, ei ffraethineb bachog a’i allu rhyfeddol i gyfathrebu gydag ymwelwyr o bob oed a chefndir, creodd Gerald brofiad ymwelwyr cwbl unigryw yn Yr Ysgwrn. Roedd o’n ymhyfrydu yng nghwmni pobl a byddai gweld plant a phobl ifanc yn ddiffael yn ymddiddori yn hanes ei ddewythr wrth fodd ei galon.
Daeth newidiadau mawr i’r Ysgwrn rhwng 2012 a 2017 yn dilyn gwerthiant y fferm i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r datblygiadau a ddaeth yn sgil hynny. Bu Gerald yn rhan allweddol o’r gwaith hwn, yn cadw llygad barcud ar bob agwedd o’r gwaith, yn cynnig cyngor craff a sicrhau na chollwyd naws arbennig “yr hen dŷ”. Yn wir, “cartref, nid amgueddfa” oedd ei arwyddair a bûm yn ffodus fel Awdurdod o’i gymorth a’i gefnogaeth parod ar hyd y blynyddoedd.
Anrhydeddwyd Gerald am ei wasanaeth oes yn 2013, pan dderbyniodd anrhydedd yr MBE a hynny ar riniog Yr Ysgwrn ei hun. Yn 2018, derbyniodd Wobr Arbennig y Prif Weinidiog yng Ngwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru am ei wasanaeth i Gymru yn Yr Ysgwrn.
Gwnaeth Gerald Williams gyfraniad unigryw i ddiwylliant Cymru a braint oedd ei alw’n ffrind. Anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at ei wraig Elsa, ei chwaer Malo a’r teulu cyfan yn eu profedigaeth.
Gan Naomi Jones
Pennaeth Treftadaeth Diwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Cerdd gan Ifor ap Glyn yn 2018 gyfansoddwyd ar achlysur Yr Ysgwrn yn derbyn y wobr Dreftadaeth Ewropeaidd ‘Europa Nostra’.
Gerald
Daeth yma’n blentyn bach i fyw at Nain
i dŷ yr ewyrth coll, a gafodd glod
ar ffurf cadeiriad mud – ond tystiai’r rhain
i ddawn flodeuodd cyn i’r bladur ddod.
A Nain a’i dysgodd am y pethau hyn,
a phwnio iddo grefft enhuddo’r tân
i gadw ei hatgofion oll ynghynn,
yr hanes llachar oedd ynghlwm â’r gân.
A dyna wnaeth, gan ddweud hi fel yma
a geiriau’i Nain yn canu yn ei go’;
gadawa’i dractor weithiau ganol cae,
rhag ofn i neb gael siom fod drws ar glo.
Croesawodd filoedd yn ei ffordd ei hun
a chadw’r lliw rhag pylu’n llwyr o’r llun.
– Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru