Wrth i’r cyntaf o dri phenwythnos gŵyl y banc ym mis Mai eleni agosáu, hoffai’r Awdurdod atgoffa ymwelwyr i barchu’r Parc Cenedlaethol a’i gymunedau, ac i gymryd camau i sicrhau bod eu hymweliadau yn rhai diogel a hwyliog.
Gall gwyliau banc yn Eryri fod yn hynod o brysur ac mae’r Awdurdod am wneud yn siwr bod ymwelwyr yn paratoi eu hymweliadau o flaen llaw, yn enwedig ar ôl achosion o barcio anghyfrifol ac anghyfreithlon ym Mhen y Pass ac Ogwen dros y Pasg.
Mae awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol wedi gweithio mewn Partneriaeth dros y gaeaf i gynyddu gwasanaethau yn y Parc Cenedlaethol dros dymor ymwelwyr 2023.
Mae ap Parcio Eryri yn adnodd defnyddiol newydd er mwyn i’r cyhoedd wneud penderfyniadau synhwyrol ynghylch pa ardal o’r Parc Cenedlaethol y maent am ymweld â hi. Mae’r ap yn darparu gwybodaeth gyfredol am fannau gwag ym meysydd parcio’r Awdurdod, gan alluogi ymwelwyr i gynllunio eu teithiau’n fwy effeithiol.
Mae gwasanaethau bws y T10, Bws Ogwen a Sherpa’r Wyddfa yn ffyrdd cynaladwy o deithio a mwynhau harddwch Yr Wyddfa ac Ogwen dros benwythnosau gŵyl y banc, gan leihau tagfeydd ac effeithiau ceir ar yr amgylchedd. Gall parcio anghyfreithlon yn y ddau leoliad arwain at gosbau gan yr Awdurdodau perthnasol.
Bydd Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa a gwirfoddolwyr Caru Eryri allan ar Yr Wyddfa dros benwythnos gŵyl y banc gyda’u brwdfrydedd arferol. Mi fyddan nhw’n codi sbwriel ac yn sicrhau bod y mynydd yn lân a diogel i bawb ei fwynhau.
Yn ogystal â hyn, byddant yn cynnig cyngor a gwybodaeth leol arbenigol am y Parc Cenedlaethol i bawb fydd yn ymweld â’r ardal. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn hynod ddiolchgar o’r gwirfoddolwyr hyn am eu hymroddiad parhaus i warchod y rhan anhygoel hyn o’r byd.
Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“’Da ni am i bawb fwynhau eu hunain yn Eryri, trwy gynllunio o flaen llaw a dilyn cyngor, gall ymwelwyr sicrhau y bydd y penwythnos gŵyl banc hwn yn llwyddiant i bawb.
Dylai ymwelwyr ag Eryri fod â chynllun wrth gefn rhag ofn y bydd y man mae’n nhw’n dymuno ymweld ag o yn rhy brysur. Gall prysurdeb rhai ardaloedd achosi prinder llefydd parcio a mwy o dagfeydd.
Gall ymweld ag ardaloedd llai prysur neu ymweld ar adegau tawelach roi profiad mwy pleserus a chynaladwy tra’n galluogi ymwelwyr werthfawrogi harddwch naturiol Eryri.”
DIWEDD.
Nodyn i Olygyddion
- Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru
- Gellir canfod manylion pellach am Sherpa’r Wyddfa ar y wefan newydd – sherparwyddfa.cymru
- Mae manylion pellach a ffurflenni Caru Eryri ar wefan BetterImpact.
- Gellir lawrlwytho ap Parcio Eryri ar holl brif ffonau symudol.
- Mae’r adran ar gynllunio’ch ymweliad ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i’w gweld yma.
- Amserlen Bws Ogwen
- Amserlen Gwasanaeth y T10 Bangor-Corwen