Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Wrth i’r cyntaf o dri phenwythnos gŵyl y banc ym mis Mai eleni agosáu, hoffai’r Awdurdod atgoffa ymwelwyr i barchu’r  Parc Cenedlaethol a’i gymunedau, ac i gymryd camau i sicrhau bod eu hymweliadau yn rhai diogel a hwyliog.

Gall gwyliau banc yn Eryri fod yn hynod o brysur ac mae’r Awdurdod am wneud yn siwr bod ymwelwyr yn paratoi eu hymweliadau o flaen llaw, yn enwedig ar ôl achosion o barcio anghyfrifol ac anghyfreithlon ym Mhen y Pass ac Ogwen dros y Pasg.

Mae awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol wedi gweithio mewn Partneriaeth dros y gaeaf i gynyddu gwasanaethau yn y Parc Cenedlaethol dros dymor ymwelwyr 2023.

Mae ap Parcio Eryri yn adnodd defnyddiol newydd er mwyn i’r cyhoedd wneud penderfyniadau synhwyrol ynghylch pa ardal o’r Parc Cenedlaethol y maent am ymweld â hi. Mae’r ap yn darparu gwybodaeth gyfredol am fannau gwag ym meysydd parcio’r Awdurdod, gan alluogi ymwelwyr i gynllunio eu teithiau’n fwy effeithiol.

Mae gwasanaethau bws y T10, Bws Ogwen a Sherpa’r Wyddfa yn ffyrdd cynaladwy o deithio a mwynhau harddwch Yr Wyddfa ac Ogwen dros benwythnosau gŵyl y banc, gan leihau tagfeydd ac effeithiau ceir ar yr amgylchedd. Gall parcio anghyfreithlon yn y ddau leoliad arwain at gosbau gan yr Awdurdodau perthnasol.

Bydd Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa a gwirfoddolwyr Caru Eryri allan ar Yr Wyddfa dros benwythnos gŵyl y banc gyda’u brwdfrydedd arferol. Mi fyddan nhw’n codi sbwriel ac yn sicrhau bod y mynydd yn lân a diogel i bawb ei fwynhau.

Yn ogystal â hyn, byddant yn cynnig cyngor a gwybodaeth leol arbenigol am y Parc Cenedlaethol i bawb fydd yn ymweld â’r ardal. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn hynod ddiolchgar o’r gwirfoddolwyr hyn am eu hymroddiad parhaus i warchod y rhan anhygoel hyn o’r byd.

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“’Da ni am i bawb fwynhau eu hunain yn Eryri, trwy gynllunio o flaen llaw a dilyn cyngor, gall ymwelwyr sicrhau y bydd y penwythnos gŵyl banc hwn yn llwyddiant i bawb.

Dylai ymwelwyr ag Eryri fod â chynllun wrth gefn rhag ofn y bydd y man mae’n nhw’n dymuno ymweld ag o yn rhy brysur. Gall prysurdeb rhai ardaloedd achosi prinder llefydd parcio a mwy o dagfeydd.  

Gall ymweld ag ardaloedd llai prysur neu ymweld ar adegau tawelach roi profiad mwy pleserus a chynaladwy  tra’n galluogi ymwelwyr werthfawrogi harddwch naturiol Eryri.”

DIWEDD.

Nodyn i Olygyddion

  1. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru
  2. Gellir canfod manylion pellach am Sherpa’r Wyddfa ar y wefan newydd – sherparwyddfa.cymru
  3. Mae manylion pellach a ffurflenni Caru Eryri ar wefan BetterImpact.
  4. Gellir lawrlwytho ap Parcio Eryri ar holl brif ffonau symudol.
  5. Mae’r adran ar gynllunio’ch ymweliad ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i’w gweld yma.
  6. Amserlen Bws Ogwen
  7. Amserlen Gwasanaeth y T10 Bangor-Corwen