I nodi 75 mlynedd ers dynodi Eryri yn Barc Cenedlaethol, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnal cyfres o gystadlaethau barddoniaeth ar gyfer oedolion, pobl ifanc a phlant.

Rydym yn gwahodd ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg, gyda themâu sy’n adlewyrchu newid, adfer natur a’n perthynas ni fel pobl gyda’r amgylchedd naturiol.
Bydd yr enillwyr yn derbyn cadeiriau Barddol a gomisiynwyd gan saer lleol, ac fe’u gwahoddir i fynychu noson Ymryson y Beirdd yn Yr Ysgwrn ym mis Hydref 2026 er mwyn eu Cadeirio.
Rydym yn annog ceisiadau gan feirdd profiadol a newydd i gystadlu fel rhan o’r flwyddyn arbennig hon o ddathlu Parc Cenedlaethol Eryri.

CYSTADLEUAETH AGORED

Thema – “Llanw a Thrai”
Ffurf – Cerdd neu gasgliad o gerddi mewn ffurf rhydd neu gynghanedd heb fod yn fwy na 80 o linellau.
Beirniaid – Y Prifardd Ceri Wyn Jones, y Prifardd Meirion McIntyre Huws & Naomi Jones
Gwobr – Cadair maint lawn wedi ei grefftio o goed Eryri gan y Saer Gethin Pyrs.
Dyddiad Cau – Hanner dydd, dydd Gwener 11fed o Fedi, 2026.

CYSTADLEUAETH DAN 18

Thema – “Adfer”
Ffurf – Penillion mewn unrhyw ffurf heb fod yn fwy na 30 llinell.
Beirniaid – Y Prifardd Carwyn Eckley, Nia Powell & Gwen Aeron
Gwobr – Cadair fach wedi ei grefftio o goed Eryri gan y Saer Gethin Pyrs.
Dyddiad Cau – Hanner dydd, dydd Gwener 11fed o Fedi, 2026.

CYSTADLEUAETH DAN 11

Thema – “Gwyrdd ein Byd”
Ffurf – Penillion mewn unrhyw ffurf heb fod yn fwy na 16 llinell.
Beirniaid – Casia Wiliam, Anni Llŷn & Gwenno Jones
Gwobr – Cadair fach wedi ei grefftio o goed Eryri gan y Saer Gethin Pyrs.
Dyddiad Cau – Hanner dydd, dydd Gwener 11fed o Fedi, 2026.

RHEOLAU CYFFREDINOL

Dylid gyrru unrhyw ymgeisiadau at e-bost cyfathrebu@eryri.llyw.cymru

Dylid nodi eich enw, ffugenw a’r gystadlaeuaeth yr ydych yn ymgeisio amdani ar ddechrau’r e-bost wrth gyflwyno.

Mi fydd angen nodi enw rhiant/gwarchodwr a manylion cysylltu ar gyfer y cystadlaethau Dan 11 a Dan 18.

Mi fydd enw’r cystadlaewyr a rhiant/gwarchodwch yn cael eu hatal o’u gyrru at y paneli beirniadu gan gydlynydd y cystadlaethau.

Gellir cystadlu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Mi fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cadw’r hawl i ddefnyddio’r cerddi buddugol mewn unrhyw gyfrwng mewn cyfathrebiadau swyddogol.

Ni chaniateir defnyddio deallusrwydd artiffisial i greu cyfansoddiadau.

Nid oes hawl i staff ac aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gymryd rhan yn y cystadlaethau.

Mi fydd gofyn i’r enillwyr fynychu noson Ymryson y Beirdd arbennig fydd yn cael ei gynnal yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd ar Nos Fercher 21ain o Hydref, 2026.