Chwaraewch ran mewn gwarchod rhinweddau arbennig Eryri trwy ddod yn Llysgennad Eryri

Wedi’i lansio ym mis Rhagfyr 2020, mae Cynllun Llysgenhadon Eryri yn gyfle hyfforddi unigryw i ddysgu am yr hyn sy’n gwneud Eryri’n eithriadol a chwarae rhan mewn gwarchod y Parc Cenedlaethol am genedlaethau i ddod.

Pwy all gwblhau’r cynllun achredu?

Datblygwyd Cynllun Llysgenhadon Eryri yn wreiddiol ar gyfer y diwydiant twristiaeth lleol ond mae’n cynnig hyfforddiant o safon uchel i unrhyw un sy’n dymuno dysgu mwy am Eryri.

Pam cwblhau'r hyfforddiant i ddod yn lysgennad?

Mae gan hyfforddi i fod yn lysgennad nifer o fanteision.

Cyfle hyfforddi o ansawdd uchel
Mae Cynllun Llysgenhadon Eryri yn gyfle hyfforddi gwych o ansawdd uchel gyda chynnwys cyfoethog ac amrywiol wedi'i greu'n benodol ar gyfer y cynllun.
Dysgu hyblyg
Cwblhewch y cwrs ar-lein ar amser sy'n gyfleus i chi.
Gwarchod Eryri
Mae dod yn Lysgennad Eryri yn ffordd berffaith o chwarae rhan mewn gwarchod Eryri am genedlaethau i ddod.
Dysgu am y Parc Cenedlaethol
Mae’r Cynllun Llysgenhadon yn gyfle i ddeall a dysgu am yr hyn sy’n gwneud Eryri yn le mor eithriadol.
Bod yn rhan o gymuned o Lysgenhadon
Trwy gael eich achredu fel Llysgennad Eryri, byddwch yn ymuno â chymuned o dros 1000 o Lysgenhadon Eryri.

Rhinweddau arbennig Eryri

Mae gan bob Parc Cenedlaethol restr sy’n diffinio ei rhinweddau arbennig. Maen nhw’n nodi beth sy’n gwneud yr ardal yn arbennig ac yn unigryw.

Y cyfuniad yma o rinweddau arbennig sydd wrth wraidd dynodiad Eryri fel Parc Cenedlaethol. Mae gan Gynllun Llysgennad Eryri fodiwl ar bob un o rinweddau arbennig Eryri.

  • Tirweddau amrywiol
    Tirwedd ac ardaloedd arfordirol amrywiol o’r mor i’r mynydd. Dyffrynnoedd ac ardaloedd glan y môr hardd sydd heb eu difetha.
  • Cydlyniant Cymunedol
    Ymdeimlad cadarn o hunaniaeth gymunedol fywiog sy’n cyfuno i roi ymdeimlad cryf o berthyn yn y 24 pentref a phum tref yn Eryri.
  • Bywiogrwydd yr Iaith Gymraeg
    Mae bywiogrwydd y Gymraeg yn Eryri yn amlwg gan mai dyma’r iaith o ddewis mewn nifer o amgylchiadau proffesiynol a chymdeithasol.
  • Ysbrydoliaeth ar gyfer y Celfyddydau
    Mae Eryri wedi ysbrydoli peth o ddiwylliant, llên gwerin, llenyddiaeth a cherddoriaeth fwyaf nodedig y genedl.
  • Llonyddwch ac unigedd
    Mae llonyddwch yn dal i fodoli mewn sawl rhan o Eryri. Yn ystod y dydd yn y mynyddoedd mawr anghysbell a garw ac yn ystod y nos o dan yr awyr dywyll enfawr ac ysbrydoledig.
  • Hamdden a Dysgu
    Yn Eryri ceir cyfleoedd helaeth yn ymwneud â gweithgareddau hamddena a dysgu ar gyfer pobl o bob oed a gallu.
  • Tirweddau Hanesyddol
    Mae gweithgarwch pobl dros y canrifoedd wedi saernio tirlun hanesyddol Eryri.
  • Daeareg Byd Enwog
    Mae Eryri wedi’i chreu drwy stori gymhleth o gyfandiroedd yn gwrthdaro, llosgfynyddoedd, ffurfio mynyddoedd, newidiadau yn y môr a rhewlifiant.
  • Cynefinoedd a rhywogaethau rhyngwladol bwysig
    Mae 17 Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn Eryri a 56 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig—prawf o’r bioamrywiaeth aruthrol sy’n cael ei adlewyrchu yn y tirwedd amrywiol.

Dod yn Lysgennad

I ddod yn lysgennad, bydd angen i chi gwblhau cyfres o fodiwlau hyfforddi ar-lein. Mae cyfres eang o fodiwlau i’w cwblhau sy’n edrych ar Rinweddau Arbennig y Parc Cenedlaethol yn ogystal â materion eraill megis gwaith yr Awdurdod. Mae gan y modiwlau gynnwys gyfoethog ac amrywiol sydd wedi ei gyfrannu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, arbenigwyr lleol, artistiaid a beirdd.

Bydd eich sgôr achredu yn dibynnu ar faint o fodiwlau y byddwch yn eu cwblhau.

Achrediad Efydd

Trwy gwblhau’r 3 modiwl cychwynnol gofynnol yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich achredu fel Llysgennad Efydd.

Achrediad Arian

Ar ôl cwblhau 6 modiwl, byddwch yn cael eich achredu fel Llysgennad Arian.

Achrediad Aur

Bydd cwblhau 9 modiwl yn golygu y byddwch yn cael eich hachredu fel Llysgennad Aur, sef yr achrediad Llysgennad Eryri uchaf.

Dod yn Lysgennad