Mae rhai o’r heriau sy’n wynebu Eryri ar hyn o bryd yn anferth ac mae angen cydweithio dwys i’w datrys.
Balans bregus rhwng nifer o heriau
Mae gwarchod ardaloedd arbennig fel Eryri yn falans bregus rhwng pob math o heriau amrywiol. Mae ein parciau cenedlaethol yn leoedd hynod sensitif lle gall newidiadau bychain arwain at sgil-effeithiau mawr.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn un o nifer o endidau sy’n gweithio tuag at warchod a gwella tirwedd a bywyd gwyllt Eryri.

Newid Hinsawdd
Mae hi’n hawdd meddwl am newid hinsawdd fel problem sy’n effeithio corneli pella’r byd, ond mae’n argyfwng sydd eisoes yn cael effaith ar y Parc Cenedlaethol.
Am Newid Hinsawdd

Rhywogaethau Ymledol
Mae rhywogaethau ymledol yn rywogaethau sy’n gallu effeithio’n negyddol ar blanhigion ac anifeiliaid brodorol. Dyma un o heriau mwyaf y Parc Cenedlaethol yn ystod y blynyddoedd diweddar ac mae gwaith mawr wedi cael ei gynnal yn ymateb i’r her.
Am Rywogaethau Ymledol


Wardeniaid
Mae Wardeniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn aml yn gweithio ar reng flaen ymgyrchoedd sydd yn mynd i’r afael a’r heriau sydd yn wynebu Eryri. Gall eu gwaith amrywio yn ddyddiol o ymgysylltu â chymunedau’r Parc Cenedlaethol i waith adfer a gwarchod tirweddau.
Wardeniaid y Parc Cenedlaethol

Gwirfoddoli
Mae cyfraniad amhrisiadwy gwirfoddolwyr yn gonglfaen i’r gwaith o warchod a gwella rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Gwirfoddoli