Cynllunio o Flaen Llaw ar gyfer Ymweliad Diogel

Mae Ogwen a Chwm Idwal yn rai o ardaloedd prysuraf Eryri oherwydd y golyfeydd mynyddig a’r daeareg unigryw. Gyda niferoedd uchel o ymwelwyr – yn enwedig yn ystod y penwythnosau a gwyliau – mae cynllunio o flaen llaw yn hanfodol i warchod yr ardal arbennig yma a’i hamgylchedd.

Mae traffig ar yr A5 trwy Ddyffryn Ogwen yn cynyddu argyfartaledd o 20% yn ystod misoedd yr haf gan achosi tagfeydd a niferoedd prin iawn o lefydd parcio. Helpwch ni i warchod yr ardal drwy gynllunio eich taith, defnyddio trafnidiaeth gynaladwy a gwarchod canllawiau lleol.

 

Cyrraedd Ogwen a Chwm Idwal

Trafnidiaeth Cyhoeddus 

Mae dewis trafnidiaeth cyhoeddus yn lleihau eich ôl-troed carbon a’r pwysau ar y lonydd cul oherwydd y niferoedd cyfyngedig o lefydd parcio.

Mae gwasanaeth bws cyson ar gael i Ogwen o Fangor a Betws-y-Coed.

Gallwch ddefnyddio gwasanaeth bws T10 sy’n rhedeg yn gyson rhwng Bangor (gan gynnwys yr orsaf trenau), Bethesda a Betws-y-Coed sydd yn stopio yn Ogwen.

Mae mannau parcio ar gael yng Nghlwb Peldroed Bethesda, ychydig gamau i ffwrdd o orsaf bws T10. Oddi yno gallwch ddal y bws yn syth i Ogwen – dewis gwych os na hoffech yrru ymhellach i’r dyffryn neu leihau tagfeydd.

Ewch i wefan Traveline Cymru neu ffonio 0800 464 0000 ar gyfer yr amserlenni a llwybrau bysiau diweddaraf.

Gyrru i Ogwen

Os oes rhaid i chi deithio gyda car, caniatewch amser ychwanegol i gyrraedd a theithio tu allan i’r cyfnodau brig os yw hynny’n bosib.

Gwiriwch eich cerbyd cyn cychwyn er mwyn osgoi unrhyw oedi. Mae diweddariadau traffig byw ar gael ar wefan Traffig Cymru neu drwy ddilyn @TrafficWalesN ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ffyrdd i Gyrraedd:

O Ogledd-orllewin Lloegr: M56 → A55 → Cyffordd 11 → A5 trwy Bethesda i Ogwen
O Gaergybi/Môn: A55 → Cyffordd 11 → A5 trwy Bethesda
O Dde Lloegr: M40/M6/M54 → A5 trwy Amwythig a Llangollen → Ogwen
O Dde-orllewin Cymru: A40 → A483 → A5 trwy Croesoswallt a Betws-y-Coed → Ogwen
O Dde-ddwyrain Cymru: A470 trwy Aberhonddu a Dolgellau → A5 tua’r dwyrain → Ogwen

Gwybodaeth Parcio

Mae’r nifer o lefydd parcio yn gyfyngedig iawn yn Nyffryn Ogwen, yn enwedig yn ystod cyfnodau brig. Parciwch yn y mannau priodol yn unig. Gall cerbydau sy’n parcio ar y glirffordd, llinellau melyn dwbl neu yn rhwystro ffyrdd yn cael eu symud a bydd rhaid i’r perchennog dalu costau. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer mynediad cerbydau gwasanaethau brys a diogelwch y cyhoedd.

Er mwyn osgoi tagfeydd cysidrwch gyrraedd yn fuan neu ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus.

Bod yn Ddiogel

Gall amodau tywydd yn y mynyddoedd newid yn gyflyn. P’run a’i os ydych yn cerdded o gwmpas Llyn Idwal neu ddringo’r copaon gerllaw, cofiwch:

– Wirio’r amodau tywydd o flaen llaw.
– Wisgo dillad addas a dod a digon o fwyd a dŵr.
– Ddod a map ac adnabod eich llwybr.
– Gadw o fewn eich ffiniau corfforol a throi nôl os nad ydych yn ffyddiog.

Os ydych yn canfod eich hun mewn trafferthion, ffoniwch 999 a gofyn am y Tîm Achub Mynydd.

Heddlu Gogledd Cymru:

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod pobl yn dod i fwynhau golygfeydd Eryri, ond rydyn ni’n annog gyrrwyr i fod yn gyfrifol. Mae parcio anghyfrifol wrth Llyn Ogwen yn peryglu bywydau ac yn rhwystro mynediad i gerbydau brys. Defnyddiwch drafnidiaeth cyhoeddus a’r ardaloedd parcio dynodedig os gwelwch yn dda.”

“Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb unigol a chyfunol i ofalu wrth fynd allan i’r mynyddoedd. Mae paratoi’n gywir yn allweddol. Cynlluniwch ymlaen llaw a dewch â’r offer cywir gyda chi. Rydyn ni eisiau i bawb ddychwelyd adref yn ddiogel gyda atgofion hapus.”

 

Gwarchod ein Tirweddau

Mae Ogwen a Chwm Idwal yn ardaloedd cadwraeth dynodedig.

Please help protect their unique ecosystems by:

– Gadw at y llwybrau dynodedig er mwyn osgoi erydiad.
– Mynd a’ch holl sbwriel adref
– Cadw cŵn ar dennyn, yn enwedig wrth ymyl da byw ac yn nhymor adar yn nythu.
– Osgoi chwarae cerddoriaeth uchel a hedfan dronau er mwyn gwarchod yr amgylchedd a bywyd gwyllt.