Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

 hithau’n Wythnos Genedlaethol Coed, pa ffordd well o ddathlu’r achlysur na dechrau ar brosiect uchelgeisiol o blannu 5,000 o goed ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Eryri?

Fel rhan o’r dathliadau i nodi pen-blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 70 eleni, yr wythnos hon bydd ein Swyddogion Coedwigaeth yn dechrau ar brosiect arbennig – sef plannu 5,000 o goed ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol – un ar gyfer pob genedigaeth a dathliad pen-blwydd 70 oed yn Eryri yn ystod y flwyddyn.

Mae plannu 5,000 o goed yn dipyn o gamp, felly er mwyn ein helpu gyda’r gwaith estynnwyd gwahoddiad i bob un Cyngor Cymuned o fewn ac ar gyrion y Parc Cenedlaethol dderbyn 70 o goed i’w plannu o fewn eu plwyf. Gan fod lle a gallu’r gwahanol gymunedau i dderbyn y nifer yma o goed yn amrywio, mae hyblygrwydd o fewn y prosiect o ran niferoedd gyda’r opsiwn o blannu un goeden fawr ddathliadol os nad oes llain o dir addas neu ddigonol o fewn tref neu bentref i blannu clwstwr o goed.

Mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd mae Awdurdod y Parc yn blaenoriaethu’r angen i blannu coed, yn enwedig o ystyried bod llawer o stoc goed hynafol y Parc yn cyrraedd diwedd eu hoes a’r bygythiad sy’n ein hwynebu yn sgil clefyd coed ynn. Yn ogystal â’u gallu i storio carbon, gwella ansawdd aer a lliniaru effaith glaw trwm, mae coed yn hynod bwysig i fioamrywiaeth hefyd gan eu bod yn darparu cynefin cysgodol a diogel i fywyd gwyllt.

Coed brodorol cynhenid fydd yn cael eu plannu, sy’n cynnwys cymysgedd o dderw, bedw a chriafol a dyfwyd o had lleol ym meithrinfa goed Awdurdod y Parc ym Mhlas Tan y Bwlch.

Meddai Rhydian Roberts, Swyddog Coedwigaeth Awdurdod y Parc:
“Dyma ffordd arbennig o ddathlu pen-blwydd y Parc yn 70 oed gan ei fod yn rhywbeth fydd o fudd i’r amgylchedd naturiol yn ogystal â bod yn nodwedd fydd yn dathlu Parc Cenedlaethol Eryri am ddegawdau, neu ganrifoedd i ddod gobeithio!”

Er mai i’r Cynghorau Cymuned yr anfonwyd y gwahoddiadau, mae croeso i unrhyw un sy’n byw o fewn neu ar gyrion y Parc i gysylltu os hoffent dderbyn coed i’w plannu fel rhan o’r prosiect yma. Bydd pob un llecyn o goed neu goeden unig a blennir yn cael ei nodi â phlac dathliadol arbennig.

Nodyn i Olygyddion

    1. Mae’r Wythnos Plannu Coed yn rhedeg o ddydd Sadwrn y 27ain o Dachwedd tan dydd Sul y 5ed o Ragfyr.
    2. Sefydlwyd meithrinfa goed ym Mhlas Tan y Bwlch nifer o flynyddoedd yn ôl, lle mae nifer helaeth o’r coed a blennir trwy amrywiol gynlluniau’r Awdurdod yn cael eu tyfu o had lleol.
    3. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu – Cynllunio Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru