Mae ‘Cerdded a Gwehyddu’ yn weithgaredd awyr agored i wehyddu ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Rydym eisiau ennyn eich diddordeb i fwynhau’r awyr agored drwy wehyddu a cherdded i ysgogi eich creadigrwydd ac er eich lles corfforol.
Byddwn yn darparu pecyn gwehyddu bychan ar y diwrnod gan eich arwain ar daith gerdded hygyrch yng nghwmni gwirfoddolwr Parc Cenedlaethol Eryri. Wrth gael eich ysbrydoli gan natur byddwch yn gallu dod i ddeall hanfodion gwehyddu tapestri wrth edrych ar y tir o’n cwmpas.
Ymunwch gyda ni i gerdded a gwehyddu ar y dyddiadau canlynol i ddathlu creadigrwydd a byd natur:
Sadwrn 25 Chwefror – Lôn Gwyrfai
Sadwrn 25 Mawrth – Betws y Coed
Mercher 12 Ebrill – Llyn Llydaw
Gallwch ein cyfarfod yn ‘Tecstiliau’ ar gyfer trafnidiaeth neu gallwch ein cyfarfod yno, gadewch i ni wybod.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddog Llesiant a Gwirfoddoli Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
Etta Trumper
etta.trumper@eryri.llyw.cymru