Mi fydd y digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn cydweithrediad a Cadw Cymru’n Daclus a mudiadau lleol eraill yn agored i bawb sydd eisiau cyfrannu at gadw Cymru’n lân, gwyrdd ac hardd.
Mae digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru yn ymgyrch blynyddol sydd wedi ei anelu at ysbrydoli cymunedau ar draws Cymru i ddod ynghŷd er mwyn glanhau’r ardaloedd maent yn byw, gweithio ac ymweld. Eleni mi fydd un o’r prif ddigwyddiadau’n cael ei gynnal ar Yr Wyddfa, un o fynyddoedd mwyaf eiconig y DU sy’n denu dros 600,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mi fydd yna gasgliad sbwriel ar raddfa fawr ar y mynydd er mwyn adfer a gwella harddwch naturiol a bioamrywiaeth yr ardal. Mi fydd y digwyddiad hefyd yn hyrwyddo pwysigrwydd twristiaeth a theithio cynaladwy gan annog ymwelwyr Yr Wyddfa i beidio gadael eu hoel ac i barchu’r amgylchedd.
Dywedodd Peter Rutherford, Rheolwr Mynediad a Lles Awdurod y Parc Cenedlaethol:
“Mae Gwanwyn Glân Cymru yn gyfle gwych i ni weithio gyda’n partneriaid, gwirfoddolwyr a’r cymunedau lleol er mwyn gwneud gwahaniaeth positif ar ardal Yr Wyddfa. Trwy lanhau sbwriel rydym yn gwarchod yr amgylchedd naturiol ac yn gwella profiad ymwelwyr tra hefyd yn hyrwyddo twristiaeth gynaladwy a chefnogi’r economi leol.”
Dyma gyfle gwych i ddysgu mwy am brosiect Yr Wyddfa ddi-blastig, menter arloesol sy’n ymgeisio lleihau’r dwysedd o sbwriel plastig yn yr ardal trwy ddylanwadu ar dueddiadau ymwelwyr a busnesau.
Dywedodd Alec Young, Swyddog Yr Wyddfa Ddi-Blastig Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Mae’r prosiect yma’n cyfuno cydweithio a busnesau, ysgolion a chymunedau i leihau’r defnydd o blastig untro yn ogystal ag annog ymwelwyr i ddefnyddio offer amlddefnydd a chynaladwy. Trwy godi ymwybyddiaeth am lygredd plastig ar yr amgylchedd a hyrwyddo ymddwyn cyfrifol, mae prosiect Yr Wyddfa ddi-blastig yn bwriadu amddiffyn harddwch naturiol yr ardal ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol”
Mi fydd y digwyddiad yn nodi dechrau’r tymor gwirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac yn ffordd wych o fod yn rhan o ymdrechion i wella’r ardal leol. Mi fydd nifer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael ar hyd y flwyddyn.
Mae Partneriaeth Caru Eryri sy’n cynnwys Awdurdod y Parc Cenedlaethol a nifer o sefydliadau eraill wedi ei ffurfio er mwyn amddiffyn harddwch naturiol yr ardal. Gwobrwywyd y tîm yn ddiweddar yn seremoni blynyddol ‘Keep Britain Tidy’ wrth gael eu henwi’n ‘2022 Litter Heroes’. Mae gwirfoddoli gyda Caru Eryri yn ffordd wych i ddod yn rhan o’r gwaith pwysig yma a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y Parc Cenedlaethol.
Dywedodd Daniel Goodwin, Uwch Swyddog Cadwraeth Cymdeithas Eryri:
“O fisoedd Ebrill hyd at Fedi mae timau o wirfoddolwyr, staff ac arweinwyr mynydd yn bresennol yn ardaloedd prysuraf Eryri yn casglu sbwriel a chynnig cefnogaeth a chyngor i aelodau’r cyhoedd. Mae’r gwirfoddolwyr yn dod o bob math o gefndiroedd ac yn dod ynghyd er mwyn gwarchod yr ardaloedd mae nhw’n eu caru. Mae’r gweithgareddau wedi eu trefnu’n broffesiynol gyda hyfforddiant a sesiynau at ddant pawb. Mae’n gyfle i gwrdd a phobl sydd a’r r’un dyheadau a chi, treulio’r diwrnod mewn lleoliadau godidog tra hefyd yn cael effaith bositif ar yr amgylchedd”.
Nodyn i Olygyddion
-
- Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru