Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Ymunwch â ni yn y tywyllwch ar gyfer noson o dan y sêr yng nghwmni Dani Robertson, ein Swyddog Awyr Dywyll. Dewch i ddysgu am yr enwau a’r chwedloniaeth Gymreig sydd y tu ôl i’r cytserau a beth sydd yn eu cysylltu â thirwedd Eryri. Cewch glywed hefyd am bwysigrwydd tywyllwch llwyr i blanhigion ac anifeiliaid Eryri. Yn ogystal, bydd y Planetariwm symudol yn Plas Tan y Bwlch a fydd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am fyd anhygoel seryddiaeth a’r gofod.

Bydd cawl a phaned ar gael ar ddechrau’r noson.

Cofiwch wisgo dillad cynnes, esgidiau cryf, menig a het. Dewch a thortsh pen os oes gennych un (yn ddelfrydol un gyda golau coch) ond bydd tortshys sbâr os bydd angen.

Digwyddiad am ddim. Lle i nifer cyfyngedig.

Arweinydd Sesiwn
Dani Roberston
Swyddog Awyr Dywyll, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Pryd a lle
21 Tachwedd, 2023
18:00-20:00
Plas Tan y Bwlch, Maentwrog LL41 3UY

Eryri Ambassador logo Wales Ambassador Week logo

Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.

Noson o Dan y Sêr

Ymunwch â ni yn y tywyllwch ar gyfer noson o dan y sêr.

Category: