Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Gallu natur i wella ein lles

Mae mynd allan i fyd natur yn un o’r ffyrdd niferus y gallwn wella ein llesiant. Gall fod yn fuddiol i’n hiechyd corfforol yn ogystal a’n hiechyd meddwl.

Mae ymchwil yn awgrymu fod pobl sy’n teimlo cysylltiad cryfach â natur yn tueddu i fyw bywydau hapusach. Datgelodd astudiaeth ar fanteision byd natur i les meddwl gan y Sefydliad Iechyd Meddwl fod 49% o bobl yn dweud fod bod yn agos at natur yn eu helpu i ymdopi â straen.

Sut mae natur yn gwella ein lles?

Yn ôl ymchwil, mae bod ym myd natur yn hybu teimladau o lonyddwch a thawelwch mewnol. Mae’r teimladau hyn yn eu tro yn rhyddhau hormonau fel ocsitosin, sef hormonau sy’n gwneud i ni deimlo’n fwy hamddenol a bodlon.

Mae astudiaethau i’r arfer shinrin-yoku o Japan, sef yr arfer o ‘ymdrochi’ yn y goedwig, wedi cadarnhau’r ymdeimlad o dawelwch all fyd nautr ei gynnig i ni, gyda manteision i iechyd corfforol a meddyliol.

Sut i gael anturiaeth meddylgar yn Eryri

Gall bod yn feddylgar yn ystod ein hanturiaethau yn Eryri olygu defnyddio egwyddorion ymwybyddiaeth ofalgar arsylwi ac ymwybyddiaeth. Gallwn sylwi pan fydd y meddwl yn dechrau crwydro, sylwi ar symudiad ein corff wrth i ni gymryd cam neu sylwi ar synau’r coed yn ystod taith hamddenol. Drwy fod yn ymwybodol o’n hemosiynau ac i ble mae ein sylw’n crwydro, gallwn ddechrau ymarfer ffyrdd o ddwyn ein sylw at y presennol a gwerthfawrogi’r foment yr ydym ynddi ar hyn o bryd.

Mae Gwenan Roberts yn ymarferydd ymwybyddiaeth ofalgar gyda blynyddoedd o brofiad. Gwyliwch y fideo isod i weld Gwenan yn dweud wrthym am fanteision mynd allan i fyd natur.

A still from a video about mindfulness—the presenter is standing facing the camera in a woodland.
Sut i ddarganfod Eryri yn feddylgar