Cenflen i gyfoeth o straeon a hanesion

Mae Eryri yn gartref i gyfoeth o straeon a chwedlau gwerin. O’r Mabinogi i chwedl Gelert, mae tirwedd Eryri wedi bod yn gefnlen i chwedlau am gariad, colled, ffrygydau a digwyddiadau arallfydol.

Mae rhai o’r chwedlau hyn yn teimlo mor hynafol â’r dirwedd ei hun—bron fel pe baent yn rhan gynhenid o’r tir ac yn rhoi naws chwedlonol i gopaon cyfareddol a dyffrynnoedd iasol Eryri. Does dim rhyfedd fod rhai o fawrion llenyddol ein hoes, megis J. R. R. Tolkien, wedi cael eu dylanwadu gan y chwedlau hyn.

Gall chwedlau Eryri ganiatáu i ni gysylltu’n ddyfnach â’r dirwedd, gan roi ystyr dyfnach i lefydd a fyddai fel arall yn ddi-nod i ni.

Mair Tomos Ifans

Mae Mair Tomos Ifans yn chweldeuwraig a chasglwr brŵd o hanesion llên Cymreig. Yma, mae hi’n adrodd stori ‘Mab Rhiwefelen’—bugail o blwy Llanfachreth sy’n digsyn mewn cariad gyda’r ddynes dlysaf yn y byd. Mae’r bugail a Bela, y ferch dlysaf yn y byd, yn disgyn mewn cariad—fodd bynnag, nid yw tad Bela am adael i’r cariadon ifanc briodi.

Nes, un diwrnod, mae’r tad yn caniatau’r briodas ac mae’r cariadon yn cychwyn ar fywyd dedwydd a’i gilydd fel gŵr a gwraig. Ond, wrth i’w cariad flodeuo, daw digwyddiad torcalonnus i amharu sy’n arwain at Bela i orfod dychwelyd at ei ‘thylwyth’ gan adael y mab Rhiwfelen yn unig am weddill ei oes.

A video
Mab Rhiwfelen