Mae Eryri yn adnabyddus am ei dirwedd, hanes a bywyd gwyllt. Ond hefyd mae’n cael ei adnabod fel ardal gyda thywydd anghyson. Caiff Eryri dros 3000mm o law bob blwyddyn, felly mae cynllunio gweithgaredd o dan do yn angenrheidiol. Dyma rai awgrymiadau o bethau i’w gwneud pan nad ydi’r tywydd yn wych y tu allan.

Ymweld ag un o safleoedd hanesyddol  Eryri 

Un o briodoleddau mwyaf unigryw Eryri yw ei gyfoeth o safleoedd hanesyddol sydd wedi eu gwasgaru ar draws y dirwedd. O’i gestyll uchel i’w treftadaeth ddiwydiannol gwasgarog, mae Eryri wedi bod yn gefnlen i ddiwydiannau o bwys rhyngwladol ac yn ganolbwynt i gyfnodau mawr yn hanes Cymru.

Tra bod nifer o safleoedd hanesyddol Eryri, fel ei gestyll ac adfeilion diwydiannol yn fenter i’w wneud yn yr awyr agored, mae dal gwerth ymweld â nhw mewn glaw mân. Does dim i guro crwydro o amgylch un o gestyll Edward fel Harlech ar ddiwrnod o wanwyn- gan gymryd i mewn rhai o’r golygfeydd o’r darnau rhyfeddol hyn o hanes.. Mae safleoedd hanesyddol eraill fel Amgueddfa Lechi Cymru gan fwyaf o dan do a gwerth ymweld ar ddiwrnod glawog.

 

 

Ein awgrymiadau

Eistedd mewn tafarn neu gaffi cysurus i ddarllen 

Mae gan Eryri ddigonedd o dafarndai a chaffis sy’n cael eu rhedeg yn lleol i ymlacio ac yn lloches i’r teithiwr tywydd gwlyb. Hefyd, mae gan yr ardal arbennig yma o Gymru nifer anhygoel o lenyddiaeth unai wedi ei ysgrifennu amdano neu wedi ei seilio yn yr ardal. Pa ffordd well na treulio p’nawn soclyd mewn gaffi neu dafarn lleol, o flaen tanllwyth o dân ac ymbleseru yn llên arbennig yr ardal.

Ein hoff rai:

Cefnogwch fusnes lleol 

Mae gan Eryri gyfoeth o siopau yn ei threfi a phentrefi mewn perchnogaeth annibynol ac yn werth crwydro o’u hamgylch ar ddiwrnod glawog. Maent yn cynnig cynnyrch lleol o fwyd, diod a nwyddau yn ogystal â mapiau lleol i gynllunio eich taith nesaf. Mae ein Canolfannau Croeso ym Meddgelert a Betws y Coed ar agor drwy’r flwyddyn ac mae ein canolfan yn Aberdyfi ar agor drwy fisoedd yr haf ac yn le perffaith i ddysgu beth sydd yn gwneud Eryri mor arbennig yn ogystal â chael gwybodaeth leol.

Ein awgrymiadau: