Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.

Taith Gerdded y mis hwn (Mawrth 2024) yw Cylchdaith Rhyd Ddu, ac fe'i dewiswyd gan Alun Jones, Warden Yr Wyddfa.

Pryd? 

  • Mawrth 23ain.
  • Cyfarfod am 9:30yb.
  • Bydd y daith gerdded yn cychwyn ychydig wedi'r amser cyfarfod.

Pam y llwybr hwn?

Mae’r llwybr yma yn teithio drwy un o’r ardaloedd harddaf a mwyaf dramatig yn y Parc Cenedlaethol. Aiff y daith drwy amrywiaeth o dirweddau, ac mae’n cynnig golygfeydd gwych o Ddyffryn Gwyrfai a’r cyffiniau, gan gynnwys golygfeydd godidog o’r Wyddfa. Mae llwybr yn un aml-ddefnydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogwyr ceffyl.

Am y daith

  • Gradd: Ysgafn/cymedrol
  • Cyfleusterau: Toiledau a meinciau picnic
  • Tirwedd: Llwybr gwastad hefo rhai ardaloedd bryniog tuag at ochrau’r Wyddfa o’r daith.
  • Dechrau/diwedd: Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri, Rhyd Ddu.
  • Hyd: Oddeutu 2 awr a hanner
  • Pellter: 6km

Tywysydd y daith: Alun Jones, Warden Yr Wyddfa - Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.

Taith y Warden: Cylchdaith Rhyd Ddu

Ymunwch ag un o wardeiniaid y Parc Cenedlaethol ar gylchdaith o amgylch ardal Rhyd Ddu.

Category: