Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.
Taith Gerdded y mis hwn (Ebrill 2024) yw taith gerdded hir ar hyd glannau deheuol llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, Llyn Tegid.
Pam y daith yma?
Mae Llyn Tegid yn un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol, sydd yn arwain ar hyd bryniau glannau deheuol Llyn Tegid, gan gynnig golygfeydd trawiadol dros y cefn gwlad agored ac, wrth gwrs, Llyn Tegid ei hun.
Pryd?
- Dydd Gwener 19eg o Ebrill, 2024.
- Cyfarfod am 9:30yb, a bydd y daith gerdded yn cychwyn ychydig wedi'r amser cyfarfod.
Cychwyn y daith
Cyfarfod ym Maes Parcio Llangywer.
- Mae map o'r daith i'w weld yma. Mae’r ‘P’ ar y map yn dangos lle mae’r daith yn dechrau.
Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps
Am y daith
- Gradd: Cymedrol/Anodd
- Hyd: Oddeutu 3 awr.
- Pellter: 5.5km
- Cofiwch wisgo esgidiau cerdded addas a dillad synhwyrol.
Tywyswyr y daith
- Simon Jones, Warden Llyn Tegid
- Arwel Morris, Warden y Bala
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Taith y Warden: Cylchdaith Llangywer
Ymunwch ag un o wardeiniaid y Parc Cenedlaethol ar gylchdaith o amgylch ardal Llyn Tegid.