Dewch i ddathlu byd hudolus yr Haf Cymreig yng ngweithdai Y Pethau Bychain!
Ymunwch â ni yn yr Ysgwrn am weithdy hyfryd lle bydd plant a’u teuluoedd yn archwilio geiriau traddodiadol Cymreig ar thema’r Haf gan gychwyn â dilyniant yoga syml.
Yn ystod y gweithdy, byddwn yn creu coron o flodau, ffeltio syml, creu ac addurno breichledau â gleiniau ysgaw, chwarae â chlai ac origami i blant hŷn.
Addas ar gyfer plant rhwng 4 and 12 oed.
Pryd: 26 Gorffennaf, 2024
Amser: 13:00yp - 15:00yp
Lleoliad: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd LL41 4UW
Archebu lle
Sesiwn
Gorffennaf 26, 2024 (13:00 - 15:00)
Nifer o fynychwyr
Sesiwn y pnawn: Dathlu byd hudolus yr Haf Cymreig yng ngweithdai Y Pethau Bychain
Dewch i ddathlu byd hudolus yr Haf Cymreig yng ngweithdai Y Pethau Bychain!