Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Croeso i Wynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri

Gyda’n partneriaid yng Nghyngor Gwynedd, rydyn ni’n gwahodd ymwelwyr i ddangos eu cariad at y rhan arbennig yma o’r byd – drwy wneud addewid i fod yn ymwelydd cyfrifol a dilyn y saith cam a restrir isod.

Two people chatting and looking at Wales guidebook
T H Roberts cafe and tea room
Dolgellau
Gwynedd
Mid
Towns and Villages
Two women chatting and looking at Wales guidebook T H Roberts cafe and tea room Dolgellau Gwynedd Mid Towns and Villages
Cefnogi’n lleol
Cyfrannu at yr economi leol drwy ddefnyddio gwasanaethau lleol a phrynu cynnyrch lleol.
Ewch i wefan Eryri Mynyddoedd a Môr am fwy o wybodaeth
Beddgelert Snowdonia North Wales
Dathlu diwylliant a thraddodiadau lleol
Dysgwch am arferion a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Gwynedd ac Eryri - o archwilio ein chwedloniaeth a'n llên gwerin lleol i roi cynnig ar siarad Cymraeg.
5 taith gerdded yn Eryri sy'n llawn chwedloniaeth
Teithio’n ddoeth ac yn gynaliadwy
Helpwch i leihau niferoedd ymwelwyr drwy gynllunio ymlaen llaw ac ymchwilio i’r adegau gorau i ymweld â llefydd poblogaidd. A thra rydych hi wrthi, beth am leihau eich ôl troed carbon drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Mae Sherpa’r Wyddfa yn cynnig gwasanaeth bws cyson a dibynadwy i bob cwr o’r Parc
Gwybodaeth ac amserlenni Sherpa'r Wyddfa
Gadael dim byd ar ôl
Cyfrannwch at warchod ein hadnoddau naturiol drwy osgoi gweithgareddau a allai niweidio’r amgylchedd a byd natur e.e. drwy fynd â’ch sbwriel adref gyda chi.
Byddwch yn ymwelydd sy’n dangos parch
Yurt interior Graig Wen Arthog Gwynedd Mid Self Catering Camping Accommodation
Byddwch yn ymwelydd sy’n dangos parch.
Ystyriwch bobl leol ac ymwelwyr eraill drwy gydol eich trip – gan barchu hawliau ac eiddo pobl eraill bob amser, e.e. drwy adael giatiau fel rydych yn eu cael; gwneud cyn lleied â phosib o lygredd sŵn; a gwersylla mewn meysydd gwersylla swyddogol yn unig.
Llefydd swyddogol i aros
Rhowch flaenoriaeth i ddiogelwch ar y mynydd ac wrth y môr
Helpwch i leddfu’r straen ar y gwasanaethau brys ac osgoi damweiniau drwy ddilyn canllawiau Adventure Smart UK a phob canllaw yn y Côd Cefn Gwlad a’r Côd Morol.
Y Côd Morol
Gadewch ôl troed digidol positif
Mae’n bwysig eich bod yn rhannu’ch cariad at Eryri a Gwynedd yn gyfrifol ar gyfryngau cymdeithasol. Wedi’r cyfan, fe allai tagio eich lleoliad mewn ardaloedd sy’n orlawn o bobl neu ddangos ymddygiad peryglus ddylanwadu ar eraill i wneud yr un peth. Yn lle hynny, gallwch gefnogi’r achos drwy ddweud wrth ffrindiau a theulu am y cod yma a/neu bostio negeseuon am eich ymweliadau diogel a chyfrifol gyda’r hashnod #Eryri, #Gwynedd a/neu #GwyneddAcEryriNi.
Gwybodaeth am economi ymweld Gwynedd & Eryri