Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan brosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd, sy’n bartneriaeth rhwng APCE, RSPB Cymru, a Choed Cadw Cymru.

Dewch i glywed am ein Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd, a dysgu am gadwraeth a phori mewn cynefinoedd Coedwig Law Tymherus.

Manylion y digwyddiad:

  • Dyddiad: 08/10/2024
  • Amser: 10:30yb - 3:00yp
  • Lleoliad: Eglwys Sant Barnabas, Rhandirmwyn, ac yna ymweliad safle dewisol i Warchodfa Natur Gwenffrwd Dinas

Ar ôl cinio bydd taith gerdded gymedrol o tua 2km, felly plis dewch â'ch esgidiau cerdded a'ch dillad glaw.

Lleoedd: 20

Rhaglen y dydd

  • 10:30 – 10:50 -  Cofrestru a lluniaeth
  • 10:50 – 11:00 -  Croeso a chyflwyniad i’r Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE
  • 11:00 – 11:50 -  Cyflwyniad i bori mewn coedlannau
  • 11:50 – 12:05 -  Pori coedlannau fel rhan o’r prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE
  • 12:05 – 12:30 -  Pori coedlannau yn Gwenffrwd Dinas
  • 12:30 – 13:15 -  Cinio
  • 13:15 – 15.00  -  OPSIYNOL Ymweliad maes i Allt Tyn-y-Ddol

PWYSIG: I gadw eich lle,  cysylltwch â Julia Harrison Julia.Harrison@rspb.org.uk, a gadewch i ni wybod am unryw anghenion dietegol.

 

Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.