Ymroi i adfer byd natur yn Eryri

Mae’r Bartneriaeth wedi’i sefydlu i ddod â’r holl bartneriaid allweddol ynghyd i weithio ar gadwraeth ac adfer natur ym Mharc Cenedlaethol Eryri mewn ymateb i’r argyfwng natur byd-eang. Mae’r Bartneriaeth hon yn cydlynu, hyrwyddo a chofnodi gweithredoedd presennol a newydd i warchod a gwella natur yn Eryri.

Mae aelodau Partneriaeth Natur Eryri wrthi’n gweithio gyda’i gilydd i greu Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Eryri. Mae’n gyfle i bawb sy’n ymwneud â rheoli a siapio dyfodol amgylchedd naturiol Eryri i atgyfnerthu eu dull o weithio ar y cyd yn y rhanbarth a thu hwnt.

Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys unigolion, sefydliadau, cofnodwyr a grwpiau cymunedol a bywyd gwyllt sydd â gwybodaeth helaeth am fywyd gwyllt ac amgylchedd naturiol Parc Cenedlaethol Eryri.

Gallwch weld y rhifyn diweddaraf yma:

Cylchlythyr Natur Eryri – Rhifyn 1, Medi 2024

Sut y gallaf i helpu byd natur yn fy ardal?

Gall parciau, gerddi, tiroedd ysgolion, gofodau cymunedol a busnesau i gyd gynnig rhywbeth i natur a, thrwy wneud hynny, gallant ddod â phobl at ei gilydd – gan greu cymunedau iachach, mwy cysylltiedig.

 

Byddwch yn rhan o’r gymuned natur

Gallwch wneud cyfraniad i natur yn eich ardal mewn llawer o ffyrdd, beth bynnag fo’ch man cychwyn, eich ymrwymiad o ran amser neu eich diddordeb. Mae cyfleoedd ar gael i bob oedran a gallu – nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol, dim ond eich brwdfrydedd ac ychydig o’ch amser.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Garddio bywyd gwyllt – mae tyfu planhigion sy’n denu pryfed peillio yn ffordd hawdd o helpu natur
  • Bwydo’r adar a gosod blwch nythu
  • Sylwi ar yr hyn rydych yn ei weld a’i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Ymuno â grŵp Cyfeillion Natur lleol sy’n gofalu am barc neu fan gwyrdd lleol
  • Gwirfoddoli i helpu elusen natur
  • Cofnodi’r planhigion a’r anifeiliaid a welwch yn eich gardd neu pan fyddwch allan yn crwydro a’u rhannu ar ap LERC Wales.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Sefydlwyd y rhaglen grant ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ yn 2020 i greu ‘natur ar garreg eich drws’ er mwyn:

creu ardaloedd sy'n cefnogi natur o fewn cymunedau
annog mwy o werthfawrogiad a gwerth o natur
creu mwy o fannau gwyrdd, gan anrhydeddu ein hymrwymiad i wneud hynny
cefnogi amcanion bioamrywiaeth ehangach

Os oes gennych syniadau am brosiect yn eich cymuned chi, cysylltwch â Chydlynydd Partneriaeth Natur Eryri i drafod eich syniadau ymhellach.

 

 

Cyswllt

Cysylltwch â chydlynydd Partneriaeth Natur Eryri i ddarganfod mwy am y Bartneriaeth a sut y gallwch chi helpu byd natur yn Eryri.

Awel Jones

Swyddog Bioamrywiaeth (Partneriaethau) – Cydlynydd Partneriaeth Natur Eryri

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

E-bostbioamrywiaeth@eryri.llyw.cymru