Ymunwch â Davy Greenough, arweinydd ymwybyddiaeth ofalgar cymwys, ar deithiau cerdded meddylgarwch o amgylch rhai o leoliadau harddaf Parc Cenedlaethol Eryri. Ymgollwch yn yr amgylchedd naturiol wrth i chi ddilyn teithiau cerdded cymedrol yn Eryri gyda ysbeidiau rheolaidd ar gyfer myfyrdodau byr ar hyd y daith.
Arweinydd y sesiwn
Davy Greenough
Manylion y daith
- Lleoliad: Coedwig Beddgelert
- Dyddiad: Dydd Sadwrn, Tachwedd 30
- Hyd y daith: 4 milltir
- Gradd: Hamddenol
- Lleoedd: 10
- Amser: Cychwyn am 10:00yb
- Cost: £5 y person
Cyfarfod: Maes parcio Forest Holidays, Beddgelert LL55 4UU
Trefnwyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mi fydd ein Swyddog Gwirfoddoli a Lles yn anfon fwy o wybodaeth ynglŷn â'r daith atoch yn agosach at yr amser.
Bydd y sesiynau yn cael eu harwain drwy gyfrwng y Saesneg a bydd swyddog iaith Gymraeg o Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn bresennol.
Canslo ac ymholiadau
Os hoffech chi ganslo eich lle ar y daith neu wneud ymholiad ynglŷn â'r digwyddiad, cysytllwch â Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant yr Awdurdod.
Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
etta.trumper@eryri.llyw.cymru
Taith Gerdded Meddylgarwch: Coedwig Beddgelert
From: £5.00
Ymgollwch yn natur Eryri ar deithiau cerdded meddylgarwch.