Rhoi gwybod am broblem gyda llwybr neu fynediad
Ydych chi wedi bod allan yn cerdded yn Eryri yn ddiweddar ac wedi dod ar draws camfa wedi torri, llwybr wedi gordyfu, giât wedi ei gloi, neu wedi cael eich rhwystro rhag defnyddio tir mynediad?
Fel rhan o’u dyletswyddau dydd i ddydd, mae ein Wardeiniaid yn cadw golwg am broblemau o’r fath ac yn gweithio gyda staff yr ystâd, gwirfoddolwyr, tirfeddianwyr a’r cynghorau lleol i’w datrys.
Gallwch chi helpu ein Wardeiniaid drwy roi gwybod am unrhyw broblemau y dewch chi ar eu traws fel y gall y Wardeiniaid Ardal ymchwilio i mewn i’r broblem a’i ddatrys.
Sut mae rhoi gwybod am broblem?
Os ydych chi wedi dod ar draws problem ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) yn Eryri neu os oes gennych ymholiad cyffredinol ynghylch y rhwydwaith hawliau tramwy a mynediad yn Eryri, rhowch wybod i ni drwy un o’r dulliau isod:
- Cofnodi problem/ymholiad ar ein map rhyngweithiol
- Ffonio 01766 770 274 yn ystod oriau swyddfa
- Ebostio hawliau.tramwy@eryri.llyw.cymru
Adrodd ynghylch problem ar y Map Hawliau Tramwy Digidol
Defnyddio’r map: Cliciwch ar y ddolen isod a bydd map o’r Parc yn agor yn eich porwr. Rhaid i chi gofrestru i greu cyfrif (cornel dde uchaf). Ar ôl mewngofnodi dewiswch ‘Mater Newydd’ (ochr chwith) a defnyddio’r botymau llywio i leoli’r broblem ar y map llwybr a chlicio ddwywaith ar y lleoliad. Cliciwch ar ‘Manylion Mater’ a llenwch yr wybodaeth berthnasol. Pan fydd yr holl wybodaeth berthnasol wedi ei ddarparu cliciwch ‘Cyflwyno’.
Hysbysiad pwysig ynghylch y map Hawliau Tramwy Cyhoeddus: Mae’r Map hawliau tramwy digidol yn dangos hawliau tramwy cyhoeddus at ddiben gwybodaeth yn unig. Cofnodir Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) yn swyddogol ar Fap Diffiniol a Datganiad (cofnod cyfreithiol o hawliau tramwy cyhoeddus), a gedwir gan y cyngor lleol. Mae pob HTC yn cael ei dosbarthu yn ôl pwy sy’n cael ei ddefnyddio a hawliau’r cyhoedd ar ei hyd. Dim ond trwy gyfeirio at y Map Diffiniol hwn (graddfeydd 1:10560) all union linell HTC gael ei bennu. Mae’r HTC a ddangosir ar y map digidol yn seiliedig ar yr HTC ar y Map Diffiniol. Ni all Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad neu anghywirdeb yn sgil digido HTC o’r Map Diffiniol.
Bydd angen i chi gofrestru eich manylion ar y system er mwyn ein galluogi i gysylltu â chi os byddwn angen rhagor o wybodaeth. Trwy gofrestru, ni fydd rhaid i chi ddarparu eich manylion eto os byddwch yn adrodd am broblem arall yn y dyfodol. Bydd darparu eich manylion cyswllt yn hwyluso’r broses o ddatrys unrhyw broblemau, ond gallwch gofnodi problem a nodi nad ydych am dderbyn gohebiaeth bellach.
Ni fyddwn ar unrhyw adeg yn rhannu’r wybodaeth gyda thrydydd parti, a bydd yn cael ei gadw’n ddiogel yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data. Drwy gofrestru, byddwch yn cytuno gyda’r Telerau a’r Amodau sy’n berthnasol i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a mapio ar-lein. Ymgyfarwyddwch eich hunan gyda’r Telerau a’r Amodau yma Telerau ac Amodau | Snowdonia National Park (llyw.cymru).
Os byddwch yn dewis derbyn diweddariadau ynghylch y mater a gyflwynwyd yna byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth ar unwaith. O fewn 10 diwrnod gwaith byddwch yn derbyn e-bost gyda diweddariad am eich cais. Os oes angen gweithredu, bydd y Warden Ardal priodol yn blaenoriaethu’r gwaith angenrheidiol a byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau pan fydd y broblem wedi ei ddatrys a pha gamau a gymerwyd. Mae’n bosib y bydd rhai materion yn gymhleth ac yn gofyn am gydweithrediad partneriaid a rhanddeiliaid fel rheolwyr tir a’r awdurdod priffyrdd lleol. Gall hyn arwain at ychydig o oedi cyn dod i ddatrysiad.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r Awdurdod ar gyfer tir mynediad agored o fewn ffin y Parc. Yr awdurdod priffyrdd dynodedig sy’n gyfrifol am y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) – Cyngor Gwynedd a Chyngor Conwy. Fodd bynnag, gan bod yr awdurdodau yn cydweithio, fydd unrhyw gwyn a dderbynnir gennym ni yn cael eu cyfeirio at sylw yr awdurdod perthnasol a/neu’r tirfeddianwyr.