Yn dilyn penderfyniad yng nghyfarfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 13 Tachwedd 2024, mae’r Awdurdod wedi cymeradwyo’r cynnig i ddefnyddio “Eryri” yn unig yn ei logo swyddogol, gan ddatblygu’r ymrwymiad a wnaed yn 2022 i flaenoriaethu enwau Cymraeg Yr Wyddfa ac Eryri yn ein holl gyfathrebu. Bydd y logo newydd yn cryfhau cysondeb y brand ar draws pob deunydd o gyfathrebu.
Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Mae’r newid i ddefnyddio ‘Eryri’ yn unig yn logo’r Awdurdod yn adlewyrchu ein hymrwymiad i dreftadaeth ddiwylliannol yr ardal a gwerthoedd yr iaith Gymraeg. Bydd y brandio newydd yma yn cryfhau hunaniaeth y Parc ac yn atgyfnerthu rôl yr Awdurdod i ddathlu treftadaeth unigryw yr ardal.”
Bydd y newidiadau i’r logo newydd yn cael eu gweithredu fesul cam ar draws adnoddau megis arwyddion, cerbydau, paneli dehongli, gwisgoedd a llwyfannau digidol. Bydd yr Awdurdod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau trosglwyddiad llyfn i’r logo diweddar, gyda’r nod o gwblhau’r ailddylunio dros amser i reoli costau’n effeithiol.