Allwch chi helpu i gadw'ch cwsmeriaid yn ddiogel? Allwch chi helpu i leddfu'r pwysau eithafol ar Dimau Achub Mynydd lleol?

Llanberis sydd â'r Tîm Achub Mynydd prysuraf yn y DU. Yn 2024 ymatebodd y Tîm i dros 350 o ddigwyddiadau. Mae’r straen corfforol a meddyliol ar y mudiad cwbl wirfoddol hwn yn ddifrifol, ac maent yn cyrraedd y pwynt lle mae eu gallu i ymdopi â phwysau cynyddol galwadau allan o dan fygythiad.

Yn anffodus, mae data yn dangos bod nifer cynyddol o ddigwyddiadau y gellir eu hosgoi. Bob blwyddyn mae mwy a mwy o bobl yn mynd i Ogledd Cymru i ddringo mynyddoedd, ond mae llawer ohonynt heb baratoi ar gyfer y profiad o gwbl. Er mwyn ceisio mynd i’r afael â hyn, mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Heddlu Gogledd Cymru, y Tîm Achub Mynydd a Chyngor Gwynedd, yn cydweithio i dreialu prosiect o’r enw Pencampwyr Antur Doeth Yr Wyddfa.

Mae llawer o'r bobl sy'n dringo'r Wyddfa yn mynd trwy gyfrwng busnesau; aros mewn llety, ymweld â manwerthwyr a bwyta mewn bwytai a chaffis – a hwn yw’r adeg gorau i ddylanwadu ar ddewisiadau pobl . Mae busnesau'n cael eu hystyried yn lleisiau dibynadwy ac yn arbenigwyr rhanbarthol, efallai mai'r sgyrsiau y mae pobl yn eu cael gyda chi yw'r olaf a gawsant cyn cychwyn am y bryniau. Rydym eisiau gweithio gyda busnesau lletygarwch yn ardal Yr Wyddfa i'ch cefnogi chi a'ch staff i hyrwyddo negeseuon diogelwch i gwsmeriaid.

Ein nod yw cynyddu hyder pawb sy’n dod i gysylltiad â cherddwyr sy’n mynd am Yr Wyddfa – er mwyn gallu rhoi cyngor a negeseuon craidd am ddiogelwch. Gallai eich sgwrs dros frecwast neu baned wneud gwahaniaeth enfawr.

Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth y gallwch chi ei wneud - yna cofrestrwch ar gyfer y sesiwn wyneb yn wyneb yn y Galeri, Caernarfon, LL55 1SQ,  o 10:30-13:30 ar y 13 Chwefror (cyfyngir lleoedd i 30).

Wedi'i ariannu gan Llywodraeth DU

 

Archebu lle
Sesiwn
Chwefror 13, 2025 (10:30 - 13:30)
Nifer o fynychwyr

Pencampwyr Mentra’nGall Yr Wyddfa: Sesiwn wyneb yn wyneb

Allwch chi helpu i gadw’ch cwsmeriaid yn ddiogel? Allwch chi helpu i leddfu’r pwysau eithafol ar Dimau Achub Mynydd lleol?

Category: