Allwch chi helpu i gadw'ch cwsmeriaid yn ddiogel? Allwch chi helpu i leddfu'r pwysau eithafol ar Dimau Achub Mynydd lleol?

Llanberis sydd â'r Tîm Achub Mynydd prysuraf yn y DU. Yn 2024 ymatebodd y Tîm i dros 350 o ddigwyddiadau. Mae’r straen corfforol a meddyliol ar y mudiad cwbl wirfoddol hwn yn ddifrifol, ac maent yn cyrraedd y pwynt lle mae eu gallu i ymdopi â phwysau cynyddol galwadau allan o dan fygythiad.

Yn anffodus, mae data yn dangos bod nifer cynyddol o ddigwyddiadau y gellir eu hosgoi. Bob blwyddyn mae mwy a mwy o bobl yn mynd i Ogledd Cymru i ddringo mynyddoedd, ond mae llawer ohonynt heb baratoi ar gyfer y profiad o gwbl. Er mwyn ceisio mynd i’r afael â hyn, mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Heddlu Gogledd Cymru, y Tîm Achub Mynydd a Chyngor Gwynedd, yn cydweithio i dreialu prosiect o’r enw Pencampwyr Mentro'n Gall Yr Wyddfa.

Mae llawer o'r bobl sy'n dringo'r Wyddfa yn mynd trwy gyfrwng busnesau; aros mewn llety, ymweld â manwerthwyr a bwyta mewn bwytai a chaffis – a hwn yw’r adeg gorau i ddylanwadu ar ddewisiadau pobl . Mae busnesau'n cael eu hystyried yn lleisiau dibynadwy ac yn arbenigwyr rhanbarthol, efallai mai'r sgyrsiau y mae pobl yn eu cael gyda chi yw'r olaf a gawsant cyn cychwyn am y bryniau. Rydym eisiau gweithio gyda busnesau lletygarwch yn ardal Yr Wyddfa i'ch cefnogi chi a'ch staff i hyrwyddo negeseuon diogelwch i gwsmeriaid.

Ein nod yw cynyddu hyder pawb sy’n dod i gysylltiad â cherddwyr sy’n mynd am Yr Wyddfa – er mwyn gallu rhoi cyngor a negeseuon craidd am ddiogelwch. Gallai eich sgwrs dros frecwast neu baned wneud gwahaniaeth enfawr.

Os ydych yn barod i wneud gwahaniaeth, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiad ar-lein ar 18 Chwefror, rhwng 18:00yh a 19:00yh. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Zoom, a byddwn yn anfon y ddolen Zoom atoch dros e-bost yn nes ddyddiad y digwyddiad. Cofrestrwch ar ein gwefan!

Logo wedi'i ariannu gal Lywodraeth y DU

Archebu lle
Sesiwn
Chwefror 18, 2025 (18:00 - 19:00)
Nifer o fynychwyr

Pencampwyr Mentra’nGall Yr Wyddfa: Sesiwn Ar-lein

Allwch chi helpu i gadw’ch cwsmeriaid yn ddiogel? Allwch chi helpu i leddfu’r pwysau eithafol ar Dimau Achub Mynydd lleol?

Category: