Yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heddiw, cymeradwywyd yr argymhelliad i weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol fel offeryn i reoli’r defnydd o dai preswyl fel ail gartrefi a lletyai gwyliau tymor byr.
Ym mis Ebrill 2024, cyflwynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hysbysiad swyddogol o fwriad i weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Eryri, a dechreuwyd ar gyfnod o chwe wythnos o ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch ei weithrediad. Dros y misoedd dilynol, rhoddodd Swyddogion Polisi Cynllunio ystyriaeth ofalus i’r holl sylwadau a gyflwynwyd, ac ymchwiliwyd i unrhyw bryderon perthnasol. Daethant i’r casgliad na gyflwynwyd unrhyw wybodaeth ychwanegol a fyddai’n cyfiawnhau gwrthdroi’r bwriad i weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Eryri. Pleidleisiodd yr Aelodau gyda’r argymhelliad i weithredu’r Cyfarwyddyd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
O’r 1af o Fehefin 2025 ymlaen, bydd angen caniatâd cynllunio er mwyn newid defnydd eiddo preswyl yn llety gwyliau tymor byr neu ail gartref o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd hyn yn ei dro yn rheoli stoc tai Eryri yn well gan atal unrhyw leihad pellach yn y tai sydd ar gael i gymunedau lleol.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r ail Awdurdod Cynllunio yng Nghymru i roi’r mesur newydd hwn ar waith, gan ddilyn Cyngor Gwynedd sydd wedi bod yn gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 ers mis Medi 2024 yn yr ardaloedd o Wynedd y tu allan i ffin y Parc Cenedlaethol.
Meddai’r Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol yma yn Eryri, wrth i ni gymryd cam pwysig i sicrhau dyfodol llewyrchus i’n cymunedau.
Mae ymchwil wedi dangos bod cyfran sylweddol o bobl wedi eu prisio allan o’r farchnad dai mewn ardaloedd sydd â chyfran uchel o ail gartrefi neu lletyai gwyliau tymor byr. Trwy weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4, gallwn ddechrau rheoli’r niferoedd o dai preswyl a ddefnyddir at y dibenion hyn yn ein cymunedau, gan roi cyfle i bobl leol i ymgartrefu yn eu cymuned. Bydd hyn yn diogelu cymunedau byw sy’n meithrin y genhedlaeth nesaf ac yn cynnal yr economi wledig gydol y flwyddyn”.
Ni fydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ôl-weithredol ac felly ni fydd yn effeithio ar eiddo a ddefnyddiwyd fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr yn Eryri cyn y 1af o Fehefin 2025.