Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.
Cymunedau bywiog wedi eu gwrieddio'n nwfn yn y dirwedd

Mae’r amrywiaeth yn nhirwedd Eryri wedi chwarae rhan amlwg wrth siapio bywydau’r bobl fu’n byw a gweithio yma ers canrifoedd.

O’r arfordir gogoneddus, i’r ucheldiroedd bras a’r mynyddoedd geirwon, mae yma gymunedau o bobl sydd wedi bwrw eu gwreiddiau ac wedi galw Eryri yn ‘gartref’ ers canrifoedd.

O fewn ffiniau’r Parc, mae 24 pentref bychan a 5 tref a’r Bala a Dolgellau yw ein dwy brif ganolfan, sy’n parhau i fod yn drefi marchnad hynafol pwysig.

Yn Eryri, mae tua 58% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, gan blethu cymunedau Eryri heddiw â’r bobl fu’n byw yma ar hyd y blynyddoedd.

Mae cymunedau Eryri yn glytwaith o’n ddoe a’n heddiw. Yma, mae traddodiadau cyntefig yn eistedd ochr yn ochr â digwyddiadau cyfoes. O’r eisteddfodau bychain i Ras yr Wyddfa, o gymdeithasau lleol i wyliau bwyd a cherddoriaeth, o helfa’r defaid yn yr Hydref i’r croeso i’r twristiaid yn ystod gwyliau’r banc.

Cymunedau Ddoe a Heddiw

Mae’r berthynas rhwng pobl a natur wedi ffurfio cymunedau yn Eryri ers miloedd o flynyddoedd ac yn parhau i gael effaith heddiw.

Tirwedd byw
Nid yn unig mae Eryri yn gofnod hanesyddol ond yn parhau i ddarparu lle hyfyw i fyw a gweithio i oddeutu 26,000 o drigolion.
Tirwedd gweithio
Mae bron i 1 o bob 5 o bobl Eryri yn hunangyflogedig, sy’n fwy na dwbl y cyfartaledd cenedlaethol.
Yr Iaith Gymraeg
Y Gymraeg yw mamiaith llawer o gymunedau Eryri gyda rhai lleoedd â 85% o’r trigolion yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.
Cymunedau hanesyddol
Mae olion gweithgaredd dynol ar hyd miloedd o flynyddoedd i’w weld yn glir ar hyd tirwedd Eryri.
Rhai o brif gymunedau Eryri

Mae 24 pentref a 5 tref yn Eryri.

Tref arfordirol yw Harlech sy’n edrych dros Fae Ceredigion. Mae pobol wedi byw a bod yn ardal Harlech ers canrifoedd. Un o atyniadau mwyaf y dref yw’r castell godidog sydd yn eistedd yn fygythiol ar ben bryn serth. Dyma un o’r nifer o gestyll adeiladwyd gan Edward I yn yr ardal yn ystod y 13eg ganrif. Yn ogystal, mae Harlech yn enwog am y bensaernïaeth nodedig sydd gan rhai o adeiladu’r dref.

Un o nodweddion amlycaf tref Dolgellau yw ei hadeiladau uchel o gerrig llwydion dolerit a llechen, a’i gwe o strydoedd cul sydd wedi esblygu a datblygu yn ddamweiniol dros bedwar canrif. Mae 180 o adeiladau’r dref wedi eu rhestru.

Tref farchnad fechan yw’r Bala lle mae’r Afon Dyfrdwy yn llifo allan o Lyn Tegid. Dyma un o’r cymunedau sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r dref hefyd yn ganolfan ryngwladol ar gyfer chwaraeon dŵr, yn enwedig hwylio, canŵio a rafftio dŵr gwyn.

Mae Beddgelert yn bentref hynod boblogaidd yng nghanol y Parc Cenedlaethol. Dyma bentref darluniadol sydd â phoblogaeth fechan iawn. Mae straeon fod enw’r pentref wedi ei ysbrydoli gan stori enwog Gelert y ci.

Un o gymunedau fwyaf deheuol y Parc Cenedlaethol sydd wedi ei leoli ym mhle mae’r Afon Ddyfi yn cyrraedd Bae Ceredigion. Cymuned pysgota oedd Aberdyfi amser maith yn ôl. Bellach, mae hi’n gyrchfan twristaidd gyda llawer o lwybrau arfordirol i’w mwynhau.

Mae pentref deiliog Betws y Coed yn adnabyddus fel cyrchfan artistiaid Fictoraidd ac roedd hefyd yn arhosfan coetsis hanesyddol ar y daith o Gaergybi i Lundain.

Cymuned a Diwydiant

Does dim dwywaith fod ôl amaethu i’w weld yn glir ar dirlun Eryri a bod y ffordd honno o fyw wedi saernïo cymunedau.

Yn ystod y chwyldro diwydiannol yn y 18fed a’r 19eg ganrif, cafodd chwareli a mwyngloddiau effaith sylweddol ar ddiwylliant, tirwedd a chymunedau Eryri.

Gwelodd trefi fel Bethesda a Blaenau Ffestiniog, sydd ar ffiniau’r Parc Cenedlaethol, dwf aruthrol a chwyddodd y boblogaeth dros nos wrth i’r galw am ddeunyddiau crai Eryri gynyddu. Yn yr un modd, gwelodd y llefydd hyn ddirywiad ar raddfa fawr tua chanol yr 20fed ganrif, gan adael rhannau o’r cymunedau hyn i wynebu caledi.

Crowd enjoys entertainment on Dolgellau square
Balchder dros ddiwylliant a iaith yr ardal
Mae yna deimlad cryf o le ac o berthyn i le ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r cymunedau sydd ar hyd a lled Eryri yn gymunedau Cymreig, agos atoch chi, sydd â balchder yn eu hiaith, eu diwylliant a’r ardal y maen nhw’n ei alw’n gartref.