Ymunwch â ni am Daith Nos UV unigryw wrth i ni ddathlu degawd o dywyllwch yn Eryri. Dewch i brofi byd cudd biofflworoleuedd, lle mae planhigion, ffyngau a bywyd gwyllt yn datgelu eu cyfrinachau disglair o dan olau uwchfioled.

Dan arweiniad y tywysydd natur brofiadol, David Atthowe o Reveal Nature, bydd y daith yn mynd â chi drwy goedwig Llyn Mair, gan gynnig cipolwg hynod ddiddorol ar ryfeddodau nosol byd natur. Bydd pob cyfranogwr yn cael tortsh UV a sbectol ddiogelwch.

Cynhelir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Reveal Nature.

Gwybodaeth bwysig

Dyddiad: 28 Chwefror 2025
Amser: 20:15 – 21:45
Lleoliad: Coedwig Llyn Mair
Cyfarfod: Maes Parcio Llyn Mair: What3Words
Nifer o leoedd: 15 (Addas i unrhyw un dros 8 oed ond rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn)
Am ddim (mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol)

Beth i'w ddod efo chi:

  • Esgidiau cadarn a dillad addas i’r tywydd
  • Tortsh ben neu dortsh llaw
  • Lefel resymol o ffitrwydd (mae’r daith gerdded yn digwydd ar dir coetir anwastad)

Archebwch eich lle a dewch i ddarganfod byd natur mewn goleuni newydd!

Archebu lle
Sesiwn
Chwefror 28, 2025 (20:15 - 21:45)
Nifer o fynychwyr

Saffari Seicedelig Taith Nos UV: Coed Llyn Mair

Ymunwch â ni am Daith Nos UV unigryw wrth i ni ddathlu degawd o dywyllwch yn Eryri.

Category: