Ymunwch â ni am Daith Nos UV unigryw wrth i ni ddathlu degawd o dywyllwch yn Eryri. Dewch i brofi byd cudd biofflworoleuedd, lle mae planhigion, ffyngau a bywyd gwyllt yn datgelu eu cyfrinachau disglair o dan olau uwchfioled.
Dan arweiniad y tywysydd natur brofiadol, David Atthowe o Reveal Nature, bydd y daith yn mynd â chi drwy Coed Ganllwyd, gan gynnig cipolwg hynod ddiddorol ar ryfeddodau nosol byd natur. Bydd pob cyfranogwr yn cael tortsh UV a sbectol ddiogelwch.
Cynhelir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Reveal Nature.
Gwybodaeth bwysig
Dyddiad: 28 Chwefror 2025
Amser: 18:00 - 19:30
Lleoliad: Coed Ganllwyd
Cyfarfod: Maes parcio Dolmelynllyn What3Words
Nifer o leoedd: 15 (Addas i unrhyw un dros 8 oed ond rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn)
Am ddim (mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol)
Beth i'w ddod efo chi:
- Esgidiau cadarn a dillad addas i’r tywydd
- Tortsh ben neu dortsh llaw
- Lefel resymol o ffitrwydd (mae’r daith gerdded yn digwydd ar dir coetir anwastad)
Archebwch eich lle a dewch i ddarganfod byd natur mewn goleuni newydd!
Saffari Seicedelig Taith Nos UV: Coed Ganllwyd
Ymunwch â ni am Daith Nos UV unigryw wrth i ni ddathlu degawd o dywyllwch yn Eryri.